| Mae’r cynigion yn cynnwys deunyddiau pecynnu plaen, cyfyngu ar arddangos fêps mewn siopau a chyfyngu ar enwau blasau fêps Mae pob un o bedair gwlad y DU yn ymgynghori gyda’i gilydd ar reolau newydd ar gyfer cynhyrchion fepio Gofynnir i’r cyhoedd a busnesau ddweud eu dweud cyn 2 Hydref |
Ynghyd â Llywodraethau eraill y DU, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar reolau newydd sydd â’r nod o wneud cynhyrchion fepio yn llai deniadol i blant a phobl ifanc. Mae’r data’n dangos bod dros chwarter y plant 11-16 oed yng Nghymru wedi rhoi cynnig ar fepio a bod bron i 7% yn fepio bob wythnos. Ymhlith pobl ifanc 16 oed yn benodol, mae dros 45% wedi rhoi cynnig ar fepio ac 16% yn defnyddio fêps yn wythnosol. Byddai’r cynlluniau yr ymgynghorir arnynt yn ei gwneud yn ofynnol i ddeunyddiau pecynnu cynhyrchion fepio a nicotin fod yn wyn ac yn blaen, gan felly wahardd dulliau brandio a delweddau lliwgar, a chyfyngu ar enwau’r blasau i dermau unigol a chyffredin fel ‘Apple’ – gan roi diwedd felly ar enwau fel ‘Cosmic Fog’ neu ‘Cotton Candy’. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnig cyfyngu ar y ffyrdd y caiff siopau arddangos cynhyrchion fepio yn agored. Byddai rhaid cadw cynhyrchion fepio a nicotin y tu ôl i’r cownter gwerthu, yn yr un modd â chynhyrchion tybaco ar hyn o bryd. Byddai rhestrau prisiau yn cael eu caniatáu o hyd a gallant gynnwys gwybodaeth am gryfder y nicotin a chynhwysion i helpu defnyddwyr sy’n oedolion i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Nod y cynigion yw lleihau fepio ymhlith pobl ifanc ond parhau i alluogi oedolion i ddefnyddio fêps os ydynt yn dymuno gwneud hynny er mwyn rhoi’r gorau i smygu. Mae Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ymgynghori ar y cynigion o dan Ddeddf Tybaco a Fêps 2026. Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans: “Mae’r cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n rhoi cynnig ar fepio ac yn defnyddio fêps yn rheolaidd yn bryder mawr ac yn fater ry’n ni’n benderfynol o fynd i’r afael ag e. “Mae fêps yn cael eu dylunio a’u marchnata’n fwriadol i apelio at blant – gyda lliwiau llachar, brandio cartŵn ac enwau blasau apelgar nad yw’n gwneud synnwyr iddyn nhw fod ar gynhyrchion sy’n cynnwys nicotin sy’n gallu gwneud rhywun yn gaeth. Mae’n hollol annerbyniol. “Byddai’r cynigion hyn yn cael gwared â’r gimics sy’n gwneud fepio yn ddeniadol i bobl ifanc. “Dw i’n annog pawb, y cyhoedd, rhieni, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon a busnesau, i ddweud eu dweud cyn 2 Hydref. Gyda’n gilydd, gallwn ni gymryd cam mawr i amddiffyn iechyd ein plant. “Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU o ran cyflwyno mesurau di-fwg. Mae eisoes wedi pasio deddfau i gyfyngu ar smygu mewn mannau cyhoeddus awyr agored, gan gynnwys ar safleoedd ysbytai, ar safleoedd ysgolion ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus. Diben hyn yw sicrhau nad yw pobl, yn arbennig plant, yn dod i gysylltiad â mwg ail-law niweidiol. Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver: “Y prif risg iechyd sy’n deillio o gynhyrchion fepio a nicotin i blant a phobl ifanc yw dibyniaeth. Mae gan y cynigion hyn y pŵer i atal cenedlaethau’r dyfodol o bobl ifanc rhag dod yn gaeth i gynhyrchion fepio a nicotin, a all gael effeithiau sylweddol ar eu hiechyd a’u llesiant. “Mae’r ymgynghoriad ar agor i’r cyhoedd, busnesau, manwerthwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac unrhyw un sydd â diddordeb yn iechyd y cyhoedd. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 2 Hydref. |
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |



















