Mae etifeddiaeth wleidyddol a chymunedol nodedig, sy’n ymestyn dros holl hanes Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), yn cael ei dathlu wrth i’r Cynghorydd Matthew (Matt) Crowley fyfyrio ar ddilyn yn ôl troed ei ddiweddar dad, y Cynghorydd Collin J. Crowley.
Gyda’i gilydd, mae tad a mab wedi cyflawni carreg filltir unigryw, ar ôl gwasanaethu gyda’i gilydd ochr yn ochr â phob Prif Swyddog Tân yn hanes y Gwasanaeth modern.
Dechreuodd cysylltiad y teulu Crowley â GTACGC cyn i’r sefydliad gael ei sefydlu’n ffurfiol. Gwasanaethodd y Cynghorydd Collin J. Crowley ar yr Awdurdod Tân Cysgodol yn 1995 cyn cael ei benodi’n swyddogol i Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (ATACGC) yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym mis Mai 1996, gan gynrychioli Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Yn aelod uchel ei barch o’r Awdurdod, gwasanaethodd y Cynghorydd Collin J. Crowley hyd nes iddo farw ym mis Mehefin 2013. Rhwng 2007 a 2009, ef oedd yr aelod Llafur cyntaf i gael ei ethol yn unfrydol yn Is-gadeirydd a Chadeirydd yr Awdurdod. Ynghyd â’i wasanaeth ar Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg a’i rôl fel Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Diogelwch Tân Cymunedol Cymru, treuliodd 39 mlynedd yn cefnogi’r Gwasanaeth Tân ac Achub.
Wedi’i ysbrydoli gan ymrwymiad ei dad i wasanaeth cyhoeddus, ymunodd y Cynghorydd Matt Crowley â’r Awdurdod Tân ym mis Mehefin 2017 ac mae’n parhau i wasanaethu heddiw.
Er nad oeddent yn gwasanaethu ar yr Awdurdod ar yr un pryd, mae eu gwasanaeth cyfunol yn rhychwantu holl hanes GTACGC. Mae’r tad a’r mab wedi cadeirio pwyllgorau allweddol o fewn yr Awdurdod, gan gynnwys y Pwyllgor Perfformiad, Archwilio a Chraffu a’r Pwyllgor Rheoli Adnoddau. Gwasanaethodd y Cynghorydd Matt Crowley hefyd fel Arweinydd Grŵp yr Aelodau Gwleidyddol Llafur.
Y Cynghorydd Collin J. Crowley (yn y canol, rhes flaen) fel Cadeirydd ATACGC.
Wrth siarad am gysylltiad unigryw’r teulu â’r Gwasanaeth, dywedodd y Cynghorydd Matt Crowley:
“Roedd fy nhad yn gweithio gyda’r Prif Swyddog Tân cyntaf, Ronnie King, a heddiw rwy’n gweithio ochr yn ochr â’n Prif Swyddog Tân presennol, Craig Flannery.”
I’r tad a’r mab, un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil ar wasanaethu ar yr Awdurdod Tân yw ei natur gydweithredol, gan ddod ag aelodau etholedig o chwe awdurdod lleol ac ystod o gefndiroedd gwleidyddol ynghyd gydag ymrwymiad cyffredin i sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Matt Crowley:
“Gall siambrau’r cyngor yn aml fod wedi’u rhannu’n wleidyddol, ond mae’r Awdurdod Tân yn wahanol. Mae aelodau’n dod at ei gilydd gyda phwrpas cyffredin, amddiffyn ein cymunedau ac achub bywydau.
Gwelais yr effaith gadarnhaol a gafodd gwasanaethu ar yr Awdurdod ar fy nhad, ac rwy’n parhau i brofi’r un ysbryd o gydweithredu heddiw. Mae’n fraint gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol ymroddedig o’r fath, o ddiffoddwyr tân ar y rheng flaen i uwch swyddogion sy’n arwain y Gwasanaeth.”
Mae stori’r teulu Crowley yn adlewyrchu cyfnod o newid a chynnydd sylweddol i GTACGC. Ers ei ffurfio yn 1996, mae’r Gwasanaeth wedi esblygu i ymdopi â risgiau newydd ac sy’n dod i’r amlwg, o gryfhau mentrau diogelwch cymunedol a galluoedd ymateb brys i fynd i’r afael â heriau fel tanau gwyllt a achosir gan yr hinsawdd a chynyddu cydweithio ag asiantaethau partner.
Wrth siarad am gyfraniad y teulu Crowley i ATACGC, dywedodd y Prif Swyddog Tân Craig Flannery:
“Mae cysylltiad y teulu Crowley ag ATACGC yn wirioneddol ryfeddol ac yn adlewyrchu’r ymroddiad, yr ymrwymiad a’r gwasanaeth cyhoeddus sydd wedi helpu i lunio ein sefydliad dros y tri degawd diwethaf. Gwnaeth y Cynghorydd Collin J. Crowley gyfraniad parhaol i’r Awdurdod, ac mae’n briodol gweld yr etifeddiaeth honno’n parhau trwy’r Cynghorydd Matt Crowley. Gyda’i gilydd, mae eu gwasanaeth yn rhychwantu hanes cyfan ein Gwasanaeth Tân ac Achub modern, cyflawniad unigryw sy’n haeddu cael ei gydnabod a’i ddathlu.
Wrth i ni ddathlu pen-blwydd y Gwasanaeth yn 30 oed a pharatoi ar gyfer newidiadau sylweddol i lywodraethiant y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, mae’n bwysig cydnabod y rhai sydd wedi ein helpu i’n harwain at y pwynt hwn. Mae cyfraniad y teulu Crowley yn rhan bwysig o’n hanes ac yn rhoi sylfaen gadarn wrth i ni edrych ymlaen at y bennod nesaf o wasanaethu a diogelu cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.”
Wrth i’r Gwasanaeth ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed, mae’n parhau i adeiladu ar gyfer y dyfodol tra’n parhau i fod wedi’i wreiddio’n gadarn yn ymroddiad ac ymrwymiad y rhai sydd wedi llunio ei hanes.
Gyda diwygiadau Llywodraeth Cymru i lywodraethiant a chyllid Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru wedi’u trefnu i ddod i rym ym mis Mai 2027, mae’r Awdurdod bellach yn edrych ymlaen at bennod newydd. Mae cyfraniad parhaus teuluoedd fel y teulu Crowley yn ein hatgoffa o’r gwasanaeth cyhoeddus, yr ymrwymiad a’r arweinyddiaeth sydd wedi bod yn sylfaen i’r sefydliad drwy gydol ei hanes.
Y Cynghorydd Matt Crowley (ar y chwith) a’r Cynghorydd Collin J. Crowley (ar y dde). (Llun wedi’i chreu gan ddeallusrwydd artiffisial).
30 Mlynedd o GTACGC
Ers ei ffurfio yn 1996, mae GTACGC wedi tyfu i fod yn un o sefydliadau tân ac achub mwyaf y DU, gan wasanaethu tirwedd eang ac amrywiol, o bentrefi gwledig a threfi arfordirol i ddinasoedd trefol prysur.
Trwy gydol y cyfnod hwn, mae ein timau wedi ymateb i filoedd o argyfyngau, wedi bod yn hybu diogelwch a chamau atal tân ac wedi addasu’n barhaus i heriau newydd gyda phroffesiynoldeb a gwydnwch. Darllenwch fwy yma.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |



















