14.7 C
Llanelli
Wednesday, October 28, 2026
Home Mid and West Wales Fire and Rescue Service Un o Ddiffoddwr Tân yr Ystafell Reoli yn ennill yr Aur ym...

Un o Ddiffoddwr Tân yr Ystafell Reoli yn ennill yr Aur ym Mhencampwriaethau Jiu-Jitsu Cymru

0
59
Chance Morgan 01 Crop

Mae un o Ddiffoddwyr Tân Ystafell Reoli ar y Cyd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) bellach yn un o Bencampwyr Cymru.

Yn ddiweddar, daeth y diffoddwr tân Chance Morgan i’r brig yn adran pwysau ysgafn Meistri’r Belt Brown 2 (76kg) cystadleuaeth All-Stars Brazilian Jiu-Jitsu (BJJ) Cymru, a gynhaliwyd yn Nhŷ Chwaraeon Caerdydd.

Chance Morgan 01

Daw’r fuddugoliaeth yn sgil newid mawr ym mywyd Chance, ar ôl cyfnod heriol a’i rhwystrodd rhag hyfforddi a chystadlu.  Roedd Chance wedi ail-afael yn y gamp yn gynharach eleni, gan ennill aur yn y gystadleuaeth Pro Sport Grappling yng Nghasnewydd ym mis Chwefror, ond ar ôl cael anaf sylweddol i’r ligament croesffurf blaen (ACL) bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’w gynlluniau a threulio misoedd yn adsefydlu.

Chance Morgan 02

Wrth siarad am ei fuddugoliaeth, dywedodd Chance:

“Rwy’n awyddus i barhau â’r momentwm hwn dros y misoedd nesaf, gyda’r nod yn y pen draw o ennill teitl Agored Prydain unwaith eto ym mis Mai 2027.”

Arferai Chance fod yn droedfilwr gyda Bataliwn 1af Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, ac mae’n defnyddio ei blatfform yn y gamp i wella ymwybyddiaeth o adferiad yn sgil Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD).

Dywedodd Chance:

“Mae gwella ymwybyddiaeth o adferiad PTSD yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i mi, yn dilyn fy nheithiau ar ddyletswydd gyda’r Bataliwn 1af.  Rwyf hefyd yn falch o gynrychioli fy nghampfa, Nails Fight Centre, fy noddwr, Violent Therapy, yn ogystal â GTACGC.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gystadlu gyda’r Jiu-Jitsu, ac i ychwanegu ychydig mwy o fedalau ar hyd y ffordd gyda lwc!”

Mae pawb yn GTACGC yn llongyfarch Chance ar ei gyflawniad ac yn dymuno pob llwyddiant iddo gyda’i nod o gyrraedd y brig unwaith eto ym myd Jiu-Jitsu Brasil Prydain.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.