8.3 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Newyddion Lle £150 miliwn ychwanegol i gefnogi busnesau yng Nghymru

£150 miliwn ychwanegol i gefnogi busnesau yng Nghymru

0
505
BUSINESS SUPPORT E
BUSINESS SUPPORT E

Mae £150 miliwn arall ar gael i gefnogi busnesau Cymru i ddelio ag effaith barhaus y coronafeirws.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r cyllid yn cael ei gadarnhau wedi yr adolygiad o reoliadau heddiw.

Bydd y cymorth ychwanegol yn helpu busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy’n talu ardrethi annomestig a bydd yn ychwanegiad i’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.

Bydd hyn yn golygu y bydd busnesau cymwys sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn derbyn taliad grant ychwanegol o £4,000.

Bydd cwmnïau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £500,000 yn derbyn £5,000.

Bydd y cyllid, a fydd yn helpu busnesau gyda’u costau hyd at 31 Mawrth, ar gael i gwmnïau waeth faint o weithwyr sydd ganddynt ac yn sicrhau bod microfusnesau yn elwa o’r cymorth.

Bydd awdurdodau lleol, sydd wedi bod yn hanfodol drwy gydol y pandemig o ran trosglwyddo arian i fusnesau yn gyflym, yn gweinyddu ac yn dosbarthu’r taliadau hyn.

Nid oes angen i fusnesau sy’n talu ardrethi annomestig ac sydd eisoes wedi cael taliad ers y bwlch tân ym mis Hydref weithredu. Fodd bynnag, dylai busnesau nad ydynt wedi cofrestru gyda’u hawdurdod lleol gymryd camau yn awr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar y gwyliau ardrethi i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru sydd wedi’i ymestyn am 12 mis arall.

Ar y cyd â chynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach presennol Llywodraeth Cymru, mae hyn yn sicrhau y bydd mwy na 70,000 o fusnesau yn parhau i beidio dalu unrhyw ardrethi o gwbl yn 2021-22.

Ers dechrau’r pandemig, mae dros £1.9bn o gymorth gan Lywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru. Bu hyn yn hanfodol i ddiogelu cwmnïau drwy’r cyfnod hynod anodd hwn a diogelu dros 160,000 o swyddi.

Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae’r cyhoeddiad heddiw o £150 miliwn mewn cymorth ychwanegol yn hanfodol i’n hymdrechion parhaus i helpu busnesau ledled Cymru drwy gyfnod heriol iawn.

“Fel Llywodraeth, rydym wedi ymateb yn gyflym i ddiogelu cwmnïau a swyddi Cymru drwy ein pecyn cymorth sy’n werth mwy na £2 biliwn. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein bod yn ymestyn y pecyn rhyddhad ardrethi 100% ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch am 12 mis arall.

“O ganlyniad i’n camau gweithredu uniongyrchol, rydym wedi gallu neilltuo mwy o gyllid i gefnogi busnesau nag a gawsom gan Lywodraeth y DU.

“Rwyf hefyd am ddiolch i awdurdodau lleol unwaith eto am eu hymrwymiad i gael arian i fusnesau cyn gynted â phosibl. Mae eu hymroddiad wedi bod yn gwbl hanfodol dros y flwyddyn ddiwethaf o ran sicrhau bod busnesau’n cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

“Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu cwmnïau a bywoliaethau wrth i waith anhygoel ac ymrwymiad i frwydro yn erbyn y feirws barhau ledled Cymru.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.