7.3 C
Llanelli
Saturday, January 31, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Elusennau Iechyd Hywel Dda yn diolch i Kathy Sturley a’i merch Nadine...

Elusennau Iechyd Hywel Dda yn diolch i Kathy Sturley a’i merch Nadine o Aberdaugleddau, Sir Benfro.

0
602
montage
montage

Fe greodd y fam ar ferch sawl enfys a’u gwerthu am £2 yr un, i godi arian ar gyfer eu helusen GIG leol, gyda £325 yn mynd i gronfa gyffredinol Ysbyty Llwynhelyg. Fe’u crewyd gartref a’u gwerthu i deulu a ffrindiau, yn eu siop leol ac i’r gymuned.

Meddai Nadine, “Dechreuodd y cyfan pan ofynnodd ffrind i’r teulu a allai mam wau neu grosio enfys iddi gan ei bod bob amser yn gwau pethau i bobl. Gwnaeth y patrwm i fyny ac ar ôl ychydig o ymdrechion gwnaed yr enfys.

“Y peth nesaf roedden ni’n ei wybod, fe ddechreuodd cymdogion a ffrindiau ofyn am un. Rydyn ni’n credu bod ein enfysau bach wedi teithio’n dda gyda rhai wedi’u hanfon i Lundain, Hampshire a Lerpwl. Roeddem yn gobeithio codi £100 ond parhaodd yr archebion i ddod i mewn ac ni allem gredu pan sylweddolom fod dros £300 wedi’i godi.

Rydyn ni’n credu bod mam wedi gwneud ymhell dros 700 o pom poms

Penderfynodd Mam gefnogi’r GIG ar ôl gweld y gwaith anhygoel roedden nhw’n ei wneud ac roedd hi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’n GIG i ddangos pa mor werthfawrogol ydyn ni am bopeth maen nhw wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf.

“Fe wnaeth Mam fwynhau eu gwneud nhw ac fe wnaeth y teulu i gyd gymryd rhan yn helpu, yn enwedig o ran gwneud ymhell dros 700 pom-pom. Roeddem yn gallu eu gwneud mewn llai na 5 munud erbyn y diwedd.

Wrth gerdded o amgylch y pentref, rydych chi’n eu gweld nhw’n hongian yn ffenestri a drysau pobl ac mae’n atgof hyfryd o’r hyn wnaethon ni i helpu yn yr amseroedd heriol hyn.”

I gefnogi elusen swyddogol y GIG ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ewch i justgiving.com/hywelddahealthcharities


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.