17.7 C
Llanelli
Saturday, September 12, 2026
Home Newyddion Lle Gwlad y Chants: Pleidleisiwch am eich hoff ‘chant’ i gefnogi Cymru

Gwlad y Chants: Pleidleisiwch am eich hoff ‘chant’ i gefnogi Cymru

0
991
gwobrau 1
gwobrau 1

Mae’r Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn galw ar gefnogwyr pêl-droed Cymru i bleidleisio ar gyfer chant newydd i gefnogi Cymru yn EURO2020. Bydd modd i bawb ddewis eu ffefryn o 9 ‘chant’ Cymraeg a dwyieithog yng nghystadleuaeth Gwlad y Chants rhwng Mehefin 2il a 4ydd, 2021 ar gyfryngau cymdeithasol Mentrau Iaith Cymru.

Cafodd y rhestr fer  eu dewis gan banel o feirniaid yn cynnwys y sylwebydSgorio, Sioned Dafydd, cyflwynydd ‘Y Wal Goch’, Yws Gwynedd, prifleisydd band Y Cledrau, Joseff Owen a’r ffan o fri, Gwenno Teifi. 

Dywed Joseff Owen;

Mae chants yn ran mor bwysig o’r profiad o wylio pêl-droed ac o’r diwylliant yn gyffredinol ac mae’n gymaint o hwyl fod yn rhan o dorf yn gweiddi a’n mwynhau. Dwi’n meddwl dros y blwyddyn diwethaf heb ffans yn gallu mynd i wylio ‘da ni’n gweld eu colli nhw mwy nag erioed.”

Dywed Sioned Dafydd; 

“I fi mae chant pêl-droed da yn gorfod bod yn eithaf doniol, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn syml a bydd pobl yn gallu dysgu’n gloi iawn. Fi wastad yn mwynhau bach o hiwmor mewn chant pêl-droed!

Bydd enillydd pob categori yn derbyn crys wedi ei arwyddo gan garfan EURO2020 gyda’r prif enillydd yn cael y cyfle i ymweld â sesiwn ymarfer carfan Cymru yn y dyfodol. 

Mae Gwlad y Chants yn ymgyrch ar y cyd rhwng y Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn clywed mwy o’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar y terasau yn y dyfodol. 

Dywed Gwenno Teifi; 

“Ni ‘di dod yn bell o pan wnes i ddechrau mynd i weld Cymru yn clywed ‘WALES, WALES’ i ble ry’n ni nawr. Felly fi’n excited i weld bach o chants newydd, Cymraeg yn y mix.”

Dywed Dafydd Vaughan, Swyddog Maes ac Ieuenctid Menter Iaith Sir Benfro; 

Ry’n ni’n edrych ymlaen at glywed y ‘chants‘ buddugol yn cael eu canu wrth gefnogi Cymru yn EWRO2020. Gyda’r tîm cenedlaethol yn chwarae dwy gêm gyfeillgar yr wythnos hon, mae’n gyfle gwych i ni rhoi tro i’r ‘chants‘ ‘ma cyn pleidleisio am eich ffefryn!”

Y rhestrau byrion: 

Cynradd: 

  • Osian Jones, Aberaeron 

  • Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe 

  • Ysgol Gymraeg Morswyn, Caergybi 

Uwchradd: 

  • Elin ac Elain, Ysgol David Hughes, Porthaethwy 

  • Ffotosynthesis, Canolfan Glantaf, Caerdydd 

  • Gethin Ellis, Llanfair Caereinion 

Oedolion: 

  • Yr un tal, Moelfre, Powys

  • Ken Thomas, Castell Nedd 

  • Elgan Rhys Jones, Waunfawr 

Mae modd clywed y chants a pleidleisio am eich ffefryn ar www.mentrauiaith.cymru/gwlad-y-chants 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.