16.6 C
Llanelli
Tuesday, September 15, 2026
Home Newyddion Lle Safle Treftadaeth newydd y Byd yng Nghymru

Safle Treftadaeth newydd y Byd yng Nghymru

0
505
862170ec33c340b9887663e833959d0c
862170ec33c340b9887663e833959d0c

Welsh Government

Mae Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru wedi’i hychwanegu at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, sy’n golygu mai dyma’r pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: “Mae cyhoeddiad heddiw yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae’r rhan hon o Ogledd Cymru wedi’i wneud i dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol Cymru, yn ogystal â’r byd ehangach.  Gellir dod o hyd i lechi Cymreig ledled y byd.

“Mae chwarela a chloddio am lechi wedi gadael gwaddol unigryw yng Ngwynedd, ac mae’r cymunedau’n falch iawn ohono. Bydd y gydnabyddiaeth fyd-eang hon heddiw gan UNESCO yn helpu i ddiogelu’r gwaddol a’r hanes hwnnw yn y cymunedau hynny am genedlaethau i ddod a’u helpu i adfywio yn y dyfodol.”

Dan arweiniad Cyngor Gwynedd, mae’r dynodiad hwn yn benllanw dros 15 mlynedd o waith caled gan bartneriaid, gan gynnwys Cadw, i gofnodi, diogelu a chydnabod gwaddol byw tirwedd lechi Gwynedd.

Yn ddiweddar, ymwelodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, ag Amgueddfa Lechi Cymru, a dywedodd “Mae hyn yn newyddion mor wych i’r ardal ac i Gymru.  Mae paratoi a chyflwyno’r cais wedi bod yn ymdrech tîm go iawn a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan.  Mae’r newyddion hyn wedi gwneud yr holl waith caled yn werth chweil!

“Mae ennill Statws Safle Treftadaeth y Byd yn ddathliad ardderchog o’r balchder yn ein cymunedau llechi – ac yn sbardun ar gyfer adfywio yn y dyfodol.”

Mae chwe rhan i’r Safle Treftadaeth hwn, gan gynnwys tirweddau chwareli ysblennydd fel Penrhyn, Dinorwig, Dyffryn Nantlle a Ffestiniog.  Mae hefyd yn cynnwys Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, Castell Penrhyn a Rheilffyrdd enwog Ffestiniog a Thalyllyn. Cawsant eu hadeiladu i gludo’r llechi o’r chwarel i farchnadoedd ledled y byd a’u trawsnewid yn ddiweddarach drwy ymroddiad gwirfoddolwyr i reilffyrdd treftadaeth.

Gellir gweld manylion llawn Safle Treftadaeth newydd y Byd ar ei wefan benodedig www.llechi.cymru


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.