9.6 C
Llanelli
Thursday, March 5, 2026
Home Fitness Helpwch i wella eich iechyd meddwl trwy fwynhau taith gerdded yng ngardd...

Helpwch i wella eich iechyd meddwl trwy fwynhau taith gerdded yng ngardd Cymru

0
450
llyn y fan scaled
llyn y fan scaled

Gelwir Sir Gaerfyrddin yn aml yn Ardd Cymru ac mae’n cynnig cyfle i gerddwyr archwilio coetir hudolus, arfordir trawiadol a chestyll hardd. Gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn ein hannog i ymarfer hunanofal a mabwysiadu newidiadau bach i helpu i wella ein lles meddyliol, dyma’r amser perffaith i gael ychydig o awyr iach a mwynhau taith gerdded yn un o’r lleoliadau syfrdanol hyn.

Carreg-Cennen

Buddion traddodiadol ymarfer corff fu gwella a chynnal ffitrwydd corfforol ond, yn fwy diweddar, mae budd ymarfer corff i wella iechyd meddwl wedi dod i’r amlwg. Mae ymarfer corff yn lleihau’r hormonau straen fel cortisol ac yn cynyddu endorffinau. Endorffinau yw cemegau ‘teimlo’n dda’ naturiol y corff, a phan gânt eu rhyddhau trwy ymarfer corff, caiff eich hwyliau hwb naturiol. Yn ogystal ag endorffinau, mae ymarfer corff hefyd yn rhyddhau adrenalin, serotonin, a dopamin. Mae’r cemegau hyn yn gweithio gyda’i gilydd i wneud i chi deimlo’n dda.

Dywedodd Dr Kerry Donovan, Pennaeth Seicoleg a Therapïau Seicolegol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae bwyta’n iach, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, cadw patrymau cysgu rheolaidd, sefydlu strwythur da ar gyfer ein dyddiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymlacio bob amser yn bwysig i hybu iechyd a lles. Os ydych chi’n profi argyfwng iechyd meddwl neu’n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch chi, gofynnwch am help. Mae’r gwasanaethau hyn ar gael o hyd ac rydym yma i helpu.”

I gael gwybodaeth am y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ewch i: 

IAWN – Gwybodaeth, ymwybyddiaeth a llesiant nawr – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Llyn Y Fan

  [Mwy i ddilyn 

Gyda dros £700m yn cael ei fuddsoddi’n flynyddol, mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw agwedd arall ar y GIG. Os ydych yn pryderu am eich iechyd meddwl, gallwch ddod o hyd i gyngor a chymorth ar sut i ofalu am eich lles meddwl yma: Sut wyt ti? – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn yn byw yng Nghymru ac yn profi gorbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol, yna gallwch chi gael mynediad at wasanaeth therapi ar-lein rhad ac am ddim trwy SilverCloud heb fod angen mynd at eich meddyg teulu trwy fynd i nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

Dyma rai o’r teithiau cerdded gwych ar draws Sir Gaerfyrddin: 

  • Llyn y Fan Fach, Llanddeusant: O amgylch y llyn mae taith gerdded bleserus ar gyfer pob lefel, ond gall y rhai sydd eisiau taith gerdded fwy heriol ddringo’r mynyddoedd ac edmygu’r llyn rhewlifol oddi uchod. 
  • Mwyngloddiau aur yn Dolaucothi, Pumpsaint: Dyma’r unig fwyngloddiau aur Rhufeinig hysbys ym Mhrydain. Dechreuwch gyda thaith pwll tanddaearol a rhowch gynnig ar chwilio am aur cyn i chi gychwyn ar un o’r chwe llwybr sydd wedi’u arwyddo’n dda sy’n mynd â chi i’r coed ac o amgylch yr ystâd. 
  • Taith gerdded Pen-blwydd Dylan Thomas, Talacharn: r rhai sydd eisiau dilyn yn ôl traed Dylan Thomas, mae llwybr arfordirol Talacharn yn arddangos y gorau o’r ardal. 
  • Taith gerdded Parc Dŵr Tywodlyd Llanelli: Mae’r daith hamddenol hon o amgylch llyn Parc Dŵr Llanelli ac ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm yn un i bawb.
  • Taith Ogof Twm Sion Cati, Rhandirmwyn: Roedd y lleidr pen ffordd Twm Sion Cati yn enwog yn yr ardal ac mae’r daith hon yn mynd i mewn i’r coetir godidog ac ar hyd yr Afon Tywi hyd at ogof y lleidr pen ffordd. 
  • Taith Cydweli: Mae’r llwybr hwn yn cynnwys cestyll canoloesol, glannau afonydd hardd a bywyd gwyllt hyfryd. Byddwch yn ymweld â chastell canoloesol mwyaf cyflawn Sir Gaerfyrddin.
  • Taith Llandeilo a Dinefwr: O’r dref, ewch allan i Ddyffryn Tywi ac i barcdir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ninefwr.
  • Taith Cenarth: Mae’n debyg mai’r ffordd orau o gyrraedd pentref prydferth Cenarth yw’r llwybr trawiadol hwn ar lan yr afon ar hyd Afon Teifi.
  • Arfordir a Chastell Llansteffan: Cychwynnwch ar draethau tywodlyd Llansteffan a gwneud eich ffordd drwy’r coetir hudolus i weld prydferthwch Bae Scott.
  • Carreg Cennen, Trapp: Mae Carreg Cennen yn un o gestyll adfeiliedig delfrydol yr ardal. Cyfeiriwyd ato fel un o adfeilion mwyaf rhamantus Prydain ac mae’n werth y daith gerdded egnïol.

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.