5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Gall rhieni plant 5-11 oed nawr drefnu apwyntiadau brechu COVID-19 eu plentyn...

Gall rhieni plant 5-11 oed nawr drefnu apwyntiadau brechu COVID-19 eu plentyn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

0
1568
shutterstock 329022272 scaled
shutterstock 329022272 scaled

Gall pobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sydd â chyfrifoldebau rhiant dros blant 5 i 11 oed nawr drefnu apwyntiad ar gyfer brechlyn COVID-19 cyntaf eu plentyn.

Yn wahanol i gyflwyno’r brechlyn i grwpiau oedran eraill, ni fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn cyhoeddi apwyntiadau ar gyfer plant 5-11 oed yn awtomatig. Yn hytrach, gofynnir i rieni archebu amser a lleoliad sy’n gyfleus iddynt trwy ffonio 0300 303 8322 neu trwy lenwi’r ffurflen gais hon https://forms.office.com/r/Rn7Tifwj6S

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), y grŵp annibynnol o arbenigwyr sy’n cynghori adrannau iechyd y DU ar imiwneiddio, wedi cynghori y dylid cynnig 2 ddos o’r brechlyn COVID-19 Pfizer plant i bob plentyn 5 i 11 oed o leiaf 12 wythnos ar wahân. Pwrpas y cynnig hwn yw rhoi’r cyfle gorau i blant gynyddu eu hamddiffyniad rhag COVID-19 difrifol cyn unrhyw don posibl o COVID-19 yn y dyfodol.

I’r rhan fwyaf o blant, mae COVID-19 yn salwch ysgafn ac anaml y mae’n arwain at gymhlethdodau. Mae cyfraddau derbyniadau i’r ysbyty, derbyniadau i ofal dwys a marwolaethau yn is yn y grŵp oedran hwn na grwpiau oedran eraill. Fodd bynnag, gall niferoedd bach o blant gael cymhlethdodau a allai arwain at gael eu derbyn i’r ysbyty. Mae’r risg hon yn uwch os oes gan y plant rai cyflyrau iechyd sylfaenol.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd yn BIP Hywel Dda: “I’r rhan fwyaf o blant, mae COVID-19 yn salwch ysgafn, ond i nifer fach gall fod yn ddifrifol. Mae cael eu brechu yn ffordd ddiogel ac effeithiol o’u hamddiffyn rhag salwch difrifol a mynd i’r ysbyty.

“Rydym yn deall bod rhai rhieni’n nerfus, yn ddealladwy, am eu plentyn yn cael brechiad COVID-19. Chi a’ch plentyn sydd i wneud dewis gwybodus am frechu.

“Y cam cyntaf a phwysicaf yw sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth am COVID-19 o ffynonellau dibynadwy. Fe welwch wybodaeth ddibynadwy am frechu ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru phw.nhs.wales/covidvaccine

I gael rhagor o wybodaeth am raglen brechlyn COVID-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i hduhb.nhs.wales/covid19-vaccination


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.