16.8 C
Llanelli
Monday, October 12, 2026
Home hywel dda health board Gwahodd y cyhoedd i ymuno â grŵp gwerthuso ar gyfer safle ysbyty...

Gwahodd y cyhoedd i ymuno â grŵp gwerthuso ar gyfer safle ysbyty newydd

0
560
Hywel Dda
Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gwahodd yr aelodau hynny o’r cyhoedd sydd wedi mynegi dymuniad i fod yn rhan o ymgysylltu yn y dyfodol, i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb i fod yn rhan o’r broses i helpu i asesu a gwerthuso’r safleoedd ar y rhestr fer.

Bydd y broses werthuso dechnegol hon yn arwain at argymhelliad ar gyfer y lleoliad gorau ar gyfer yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd.

Yn ddiweddar, cyflwynodd y bwrdd iechyd Achos Busnes Rhaglen i Lywodraeth Cymru i sicrhau buddsoddiad ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen yng Ngorllewin Cymru. Mae un o’r cynigion yn yr achos busnes ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd, rhywle rhwng Arberth yn Sir Benfro a Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin.

Er mwyn helpu i ddewis safle ac fel rhan o’i ymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau, mae’r bwrdd iechyd yn cysylltu ag unigolion, grwpiau, a sefydliadau o bob rhan o’r tair sir i ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb i ymuno â grŵp i asesu a gwerthuso’r safleoedd ar y rhestr fer ac i nodi y lleoliad gorau ar gyfer yr ysbyty.

Mae’r ymarfer hwn yn cynnwys ysgrifennu at fwy na 200 o bobl a gymerodd ran mewn ymarfer ymgysylltu y llynedd, a oedd wedi gofyn am gael gwybod am weithgareddau ymgysylltu yn y dyfodol.

Bydd niferoedd yn gyfyngedig ond mae’r bwrdd iechyd yn chwilio am grŵp amrywiol a chynrychioliadol. Bydd disgwyl i’r rhai sy’n dod yn rhan o’r broses fynychu nifer fach o weithdai hanner diwrnod. Er nad yw dyddiadau wedi’u cadarnhau eto, byddem yn disgwyl i gyfranogiad gynnwys trafodaeth ar y broses ar gyfer gwerthuso, dealltwriaeth o’r meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer gwerthuso’r rhestr fer o safleoedd a chytuno ar bwysoliad cymharol y meini prawf hynny. Yn olaf, sgorio’r safleoedd ar y rhestr fer i gyrraedd argymhelliad i’r Bwrdd Iechyd.

Mae’r broses yn cael ei rheoli gyda chymorth a chyngor gan The Consultation Institute, corff annibynnol dielw, sy’n darparu canllawiau ar arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cynrychiolaeth y cyhoedd ar y grŵp gwerthuso hwn yn hollbwysig, ac rydym am iddo fod mor gynrychioliadol â phosibl o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Bydd y grŵp hefyd yn cynnwys gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, clinigwyr a phartneriaid yn y sector cyhoeddus.

“Rydym yn deall yn iawn y cryfder teimladau sy’n bodoli o fewn ein cymunedau, a dyna pam y byddwn yn annog y rhai y cysylltwyd â nhw i gyflwyno eu datganiadau o ddiddordeb i gymryd rhan yn y panel hwn, a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

“Mae’r ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn un elfen o’n cynllun uchelgeisiol i wella canlyniadau iechyd a llesiant ein poblogaeth. Mae’n rhan o’n strategaeth hirdymor i gyflawni Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach, a ddilynodd ymgysylltu ac ymgynghori helaeth yn 2018.

“Ein targed yw symud o wasanaeth salwch gyda ffocws ar adeiladau ysbytai ac ymyrraeth, i wasanaeth sy’n gweithio ar draws ffiniau i atal afiechyd neu ddirywiad iechyd, gan ddarparu cymorth yn gynt, a lle bynnag y bo modd yn nes at adref.”

Er bod llawer o fanylion am wasanaethau’r dyfodol ar draws Hywel Dda yn cael eu datblygu a’u cynllunio ar hyn o bryd, mae’r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi rhestr o Gwestiynau a Ofynnir yn Aml i sicrhau bod y cyhoedd yn cael y wybodaeth fwyaf diweddar.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.