9 C
Llanelli
Sunday, November 1, 2026
Home Newyddion Lle Datganiad Llywodraeth Cymru ar therapi Trosi

Datganiad Llywodraeth Cymru ar therapi Trosi

0
554
LGBTQ flag scaled
LGBTQ flag scaled
Welsh Government News

Ddoe fe wnes i ddod yn ymwybodol o ddogfennau gan Lywodraeth y DU a datganiad gan Downing Street bod y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn bwriadu rhoi’r gorau i’r ymrwymiadau clir iawn a wnaed i roi terfyn ar yr arfer didostur o ‘therapi’ trosi. Mae’n ymddangos heddiw bod yr ymateb cyhoeddus negyddol haeddiannol wedi arwain at wrthdroi hyn yn rhannol heb yr amddiffyniadau hollbwysig a addawyd i’r gymuned Drawsryweddol.

I fod yn glir, gwnaeth Llywodraeth y DU addewid clir iawn. Fe wnaethant ddweud y byddai eu cynigion yn ‘gyffredinol ac yn amddiffyn pawb beth bynnag fo’u cyfeiriadedd rhywiol ac a ydynt yn Drawsryweddol ai peidio’.

Ar Ddiwrnod Dathlu Trawsrywedd, dewisodd y Prif Weinidog roi’r gorau i geisio amddiffyniadau ar gyfer rhan o’n cymuned. Mae hyn yn annerbyniol ac nid yw’r tro pedol rhannol yn fuddugoliaeth. Mae’r gymuned LHDTC+ yn sefyll fel un, ac nid oes yr un ohonom yn gyfartal tra bod ein hawliau’n destun trafod a chyfnewid.

Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi fy nghondemniad cryf i’r cam hwn ac wedi pwyso am eglurder ar frys ynglŷn â’u bwriad.

Heddiw, gallaf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru’n comisiynu cyngor cyfreithiol brys ar y camau y gallwn eu cymryd i wahardd ‘therapi’ trosi. Byddwn yn gwneud popeth gallwn o fewn ein pwerau datganoledig i ddiogelu ein cymuned LHDTC+. Ni allwn fod â ffydd mwyach y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud yr un peth. Byddwn hefyd yn ceisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol sydd eu hangen i weithredu hyn.

Mae cefnu ar yr ymrwymiad hwn yn dor-ymddiriedaeth ddifrifol a chywilyddus o ystyried y ffydd dda a ddangoswyd gan y gymuned LHDTC+ a sefydliadau sy’n ymgyrchu dros hawliau dynol. Mae hefyd yn dangos yn glir nad oes ots gan Lywodraeth y DU am y bygythiadau gwirioneddol a difrifol sy’n wynebu’r gymuned LHDTC+ a’r rhai sydd wedi dioddef.

Cafodd yr ymrwymiad i wahardd ‘therapi’ trosi ei wneud ar sawl achlysur – yn araith y Frenhines, gan y Prif Weinidog, gan Weinidogion Llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriadau diweddar a thrwy gyhoeddiadau cyhoeddus. Roedd hefyd yn ymrwymiad a wnaed yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru ac fe wnaethom weithredu’n ddidwyll yn y gobaith bod y cam hwn yn ymgais ddiffuant i unioni anghyfiawnder clir iawn.

Mae’n frawychus ac yn gywilyddus darllen sut y mae pryderon unigolion LHDTC+ yn cael eu diystyru gan Lywodraeth y DU fel ‘sŵn’ i’w rheoli. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Bydd yr ymateb negyddol gwbl gyfiawn gan y gymuned LHDTC+, ffrindiau, teuluoedd, cynghreiriaid a Llywodraeth Cymru yn llawer mwy na sŵn i’w reoli.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.