12.1 C
Llanelli
Sunday, November 1, 2026
Home Local News Cardiff News Haf o Hwyl i Blant a Phobl Ifanc Caerdydd

Haf o Hwyl i Blant a Phobl Ifanc Caerdydd

0
637
Screenshot 2022 05 24 at 14.37.13
Screenshot 2022 05 24 at 14.37.13

Ar ôl llwyddiant Gwên o Haf a Gaeaf Llawn Lles y llynedd, bydd gŵyl Haf o Hwyl yn cael ei chynnal i blant a phobl ifanc Caerdydd dros wyliau’r haf. 

Mae rhaglen Haf o Hwyl Cyngor Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfleoedd a gweithgareddau rhad ac am ddim i blant 0-25 oed ledled y ddinas rhwng mis Gorffennaf a Medi. Mae ein Tîm Caerdydd sy’n Dda i Blant yn cydlynu’r rhaglen sydd â’r nod o gefnogi cenedlaethau’r dyfodol yng Nghaerdydd gyda’u lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol dros yr haf.

Mae Haf o Hwyl yn rhan o Adferiad sy’n Dda i Blant Caerdydd, a ddechreuodd ar ôl y pandemig. Mae Caerdydd sy’n Dda i Blant yn cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: “Mae’n bwysig ein bod yn parhau â’n hymrwymiad i ail-ymgysylltu plant a phobl ifanc Caerdydd â’u dinas wrth roi gwên ar eu hwynebau a chynnig cyfleoedd newydd i ymlacio a chael hwyl gyda ffrindiau a theulu.”

Bydd Haf o Hwyl yn cwmpasu’r canlynol:

  • Gŵyl bythefnos ar Lawnt Neuadd y Ddinas
  • Gweithgareddau ledled y ddinas
  • Rhaglen gelfyddydol a diwylliannol wedi’i churadu gan Actifyddion Artistig

Prif Safle’r Ŵyl yn Neuadd y Ddinas

23 Gorffennaf i 7 Awst 

Ymunwch â ni ar Lawnt Neuadd y Ddinas ar gyfer gŵyl haf o weithgareddau llawn hwyl. Cewch gyfle i ymuno â gweithdai amrywiol, gwylio theatr wych, perfformiadau ysblennydd, cyfrannu at y gosodiad celf cymunedol, chwarae gemau, neu fwynhau’r heulwen.

Sesiynau bore Iau: Er y bydd yr ŵyl gyfan yn gynhwysol ac yn addas o ran niwroamrywiaeth, bydd sesiwn gyntaf pob dydd Iau yn sesiynau tawel wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc niwroamrywiol a’u teuluoedd.

Gweithgareddau Ledled y Ddinas 

23 Gorffennaf i 5 Medi 

Er mwyn cysylltu â chymaint o blant a phobl ifanc â phosibl yn ystod gwyliau’r haf, mae nifer fawr o sefydliadau’n darparu ystod eang o weithgareddau ym mhob rhan o’r ddinas. 

Mae map ar wefan Caerdydd sy’n Dda i Blant sy’n dangos pa sefydliadau sy’n cymryd rhan ym mhob ardal a manylion am sut i gymryd rhan. 

Dyma rai o’r gweithgareddau sydd ar gael: hyfforddiant beicio, hwylio, profiad parc dŵr, gyrwyr ifanc, triathlon iau, Darpariaeth Gymraeg – Urdd a Grantiau Cymunedol eraill.  

Rhaglen y Celfyddydau a gynhelir gan Actifyddion Artistig 

Drwy gydol mis Gorffennaf ac Awst mae Actifyddion Artistig yn gweithio gyda phartneriaid ledled y ddinas i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol hwyl i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Y digwyddiad arbennig fydd ‘Out of Doors Live’ ar Lawnt Neuadd y Ddinas lle bydd rhaglen lawn o weithgareddau celfyddydol ac adloniant rhwng 23 Gorffennaf a 7 Awst. Yn ogystal â hyn, bydd y Rhaglen Gelfyddydol yn mynd allan i ganolfannau cymunedol, canolfannau ieuenctid a chanolfannau hamdden ledled Caerdydd i gynnig mwy o weithgareddau celfyddydol hwyl i bawb o bob oedran. 

Mae mwy o fanylion am y rhaglen yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd at wefan Caerdydd sy’n Dda i Blant: https://www.caerdyddsynddaiblant.co.uk/ 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.