8.3 C
Llanelli
Monday, March 9, 2026
Home Charity Mae elusen GIG yn cynnig cyfleoedd i wneud ewyllys am ddim

Mae elusen GIG yn cynnig cyfleoedd i wneud ewyllys am ddim

0
353
Free Wills Month
Free Wills Month

Mis Ewyllysiau Am Ddim 2022

Mae elusen GIG yn cynnig cyfleoedd i wneud ewyllys am ddim – a gadael diolch

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi partneru â Farewill i gynnig cyfle i gefnogwyr ysgrifennu neu ddiweddaru ewyllys am ddim yn ystod mis Hydref 2022.

Mae’r mis ysgrifennu ewyllys yn gyfle perffaith i bobl nad oes ganddyn nhw ewyllys i ysgrifennu un, ac i’r rhai sydd ag ewyllys cyfredol i’w diweddaru. Gall y rhai sy’n cymryd rhan sicrhau bod y bobl y maent yn eu caru yn cael eu cofio yn eu hewyllys, ac, os dymunant, eu helusen GIG leol.

Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Gellir ysgrifennu’r ewyllysiau ar-lein neu dros y ffôn gyda’r darparwr ewyllys dibynadwy, Farewill, a gall gymryd llai na 30 munud. Mae tîm o arbenigwyr ar gael saith niwrnod yr wythnos i’ch helpu i ysgrifennu ewyllys o gysur eich cartref eich hun.

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae hwn yn gyfle gwych a chyfleus i sicrhau bod dyfodol eich teulu’n ddiogel ac y bydd eich dymuniadau’n cael eu dilyn – a hefyd i gefnogi eich elusen GIG leol os ydych chi’n dewis gwneud hynny.

“Bydd hyd yn oed rhodd o 1% o’ch ystâd i’r elusen yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer, sy’n golygu y gallwch chi adael cymynrodd barhaol ar gyfer eich gwasanaethau GIG lleol.”

I sicrhau lle cliciwch yma, ffoniwch 01267 239815 neu e-bostiwch

Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.