10.5 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home Newyddion Lle Adroddiad newydd y Swyddfa Archwilio ar Dlodi yng Nghymru yn cefnogi galwadau...

Adroddiad newydd y Swyddfa Archwilio ar Dlodi yng Nghymru yn cefnogi galwadau Plaid Cymru

0
617
o3TlEKMW
o3TlEKMW

Heddiw mae adroddiad newydd gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi galw am strategaeth a thargedau newydd i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru – rhywbeth y mae Plaid Cymru ac ymgyrchwyr gwrth-dlodi wedi bod yn galw amdano ers tro.

Mae hefyd yn nodi “nad yw’r un Cyngor wedi creu un porth i mewn i wasanaethau. O ganlyniad mae’n rhaid i bobl gwblhau ffurflenni cais lluosog sy’n aml yn cofnodi’r un wybodaeth.”

Cyflwynodd Sioned Williams AS, sy’n Llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, gynnig ar gyfer newid y gyfraith ar y mater hwn yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Cafodd y cynnig ei basio gyda chefnogaeth drawsbleidiol, er na phleidleisiodd unrhyw aelod o Lywodraeth Cymru o’i blaid.

Dywedodd Sioned Williams AS:

“Mae’r diffygion, y gwahaniaethau ac yn ystod y degawd diwethaf o reolaeth y Torïaid yn San Steffan, y creulondeb llwyr sy’n nodweddu system Les y DU, wedi achosi caledi i ddegau o filoedd o bobl yng Nghymru ac wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cael ei gorfodi i gamu i mewn i gefnogi teuluoedd incwm isel lle mae San Steffan wedi methu Cymru.

“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro dros ddatganoli gweinyddiaeth dros Les i Gymru ac rydym yn falch o fod yn symud ymlaen ar hyn drwy ein Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Ond wrth i ni aros am gynnydd ar yr uchelgais hwnnw, mae’r gefnogaeth sydd ar gael o goffrau Cymru yn gwbl briodol wedi bod yn lluosi’n gyflym ac felly’n esblygu’n glytwaith o daliadau sy’n cael eu darparu’n bennaf, ond nid yn unig gan Awdurdodau Lleol. Mae’r taliadau weithiau’n seiliedig ar brawf modd ac weithiau’n gysylltiedig â rhai budd-daliadau penodol, gydag amodau cymhwysedd yn amrywio, o ran ffurf a natur a dulliau ymgeisio sydd ar wahân yn bennaf ac yn aml yn gymhleth.

“Roeddwn yn falch iawn bod fy nghynnig wedi’i basio gan y Senedd yr wythnos diwethaf ac rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i gynyddu’r nifer o bobl gymwys sy’n derbyn cymorth gan fudd-daliadau Cymreig drwy ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a chysoni’r dull o wneud cais am gymorth o’r fath,  yn enwedig o ystyried argymhellion adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae’n hollbwysig bod pob ceiniog o gymorth sydd ar gael yng Nghymru yn cyrraedd pocedi’r rhai sydd ei angen mor rhwydd a chyflym â phosibl.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.