8.7 C
Llanelli
Monday, May 18, 2026
Home Newyddion Lle GIG Cymru wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd

GIG Cymru wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd

0
541
pexels anna shvets 6250930 min scaled
pexels anna shvets 6250930 min scaled

Mae gwaith staff o fewn GIG Cymru wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cenedlaethol y DU 2023.

Mae’r Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd wedi’u cynnal ers 17 o flynyddoedd ac yn cydnabod ac yn dathlu gwaith gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gwyddonwyr gofal iechyd a chydweithwyr eraill sydd wedi rhoi arferion gofal iechyd arloesol ar waith.

Ymhlith yr enwebeion o Gymru ar gyfer y gwobrau eleni mae:

  • Claire Madsen o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a enwebwyd ar gyfer y Wobr Arweinyddiaeth am ei gwaith ar hyd a lled Cymru i ddatblygu gwasanaethau COVID hir.
  • Joseph Cox o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a enwebwyd ar gyfer gwobr Seren y Dyfodol am ei waith ym maes Deieteg.
  • Tîm Model Adsefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a enwebwyd ar gyfer Gwobr Llywodraeth Cymru ar gyfer ei fodel adsefydlu er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy optimeiddio iechyd a chefnogi hunanreoli.
  • Tîm Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a enwebwyd hefyd ar gyfer Gwobr Llywodraeth Cymru am ei ddull gweithredu amlddisgyblaethol o reoli llyncu, maetheg a meddyginiaeth preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal.
  • Paul Thomas Lee o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a enwebwyd ar gyfer y Wobr Arweinyddiaeth ym maes Gwyddor Gofal Iechyd am ganolbwyntio ar ddiogelwch cleifion wrth ddatblygu mentrau newydd, gwaith cydweithredol a rhaglenni gwella ar gyfer hyfforddiant i ddefnyddio dyfeisiau meddygol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Rwy’n falch iawn o weld gwaith caled cydweithwyr o bob rhan o’n GIG yng Nghymru yn cael ei gydnabod yn y gwobrau ledled y DU hyn. Mae GIG Cymru yn dod o hyd i ffyrdd arloesol newydd o weithio o hyd, o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad y rhai hynny sy’n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd. Mae’r enwebeion hyn yn dangos eu bod yn ffynnu, er gwaethaf y pwysau enfawr y maen nhw’n ei wynebu bob dydd, er mwyn darparu’r gofal a gwasanaethau iechyd gorau posibl i bobl Cymru.”

Dywedodd Joseph Cox, Deietegydd Cymunedol a Rheoli Meddyginiaethau ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Cawsom syndod mawr wrth glywed am yr enwebiad hwn, ond rwy’n falch ac yn gyffrous iawn gan ei fod yn deimlad gwych cael fy nghydnabod am y rhan rwyf wedi’i chwarae yn yr amser byr rwyf wedi bod yn y rôl hon. Rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth rwyf wedi’i chael gan yr adran ddeieteg ehangach yn ystod fy mlwyddyn a hanner gyntaf gyda’r tîm, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ragor o flynyddoedd gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys gan ddatblygu gyda nhw.”

Dywedodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Mae’n anrhydedd mawr i mi gynrychioli Powys a Chymru yn y Gwobrau hyn, a chodi proffil y gwaith hynod o bwysig a wneir gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru, i gefnogi’r bobl sydd â Covid Hir.”

Dywedodd Sheiladen Aquino sy’n arwain y prosiect ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn gyfle i arddangos sut y gall gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd integredig hyrwyddo profiad positif i gleifion, gwella canlyniadau clinigol, lleihau costau a chyfrannu at amgylchedd gwyrddach.

“Gellir efelychu’r model hwn yn hawdd i ddarparu ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill er mwyn darparu gofal cyfannol i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned. Rydym yn gobeithio cyflwyno’r model hwn ledled Cymru a chynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill. Nid yw’r dull hwn ar gyfer Therapyddion Lleferydd, Deietegwyr a Fferyllwyr yn unig. Gall pobl fel Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion ddefnyddio’r model hwn i leihau cwympiadau a gwella’r broses adsefydlu.

“Rydym yn falch o gynrychioli nifer o brosiectau arloesol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy’n cael eu cynnal yng Ngwasanaethau Cymunedol Integredig Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.”

Dywedodd Emma Cooke, Dirprwy Gyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

“Rwy’n falch iawn bod Tîm Adsefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Llywodraeth Cymru yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU.

“Mae’r model sy’n canolbwyntio ar adfer yn effeithio’n sylweddol ar y ffordd rydyn ni’n gweithio. Mae’n creu ac yn darparu ymyriadau cymunedol wedi’u cyd-gynhyrchu a’u cyd-gyflwyno sy’n diwallu anghenion y bobl rydym yn gofalu amdanynt.

“Mae’r canlyniadau a’r buddion yn bellgyrhaeddol yn barod. Ers cyflwyno’r model, mae 5,241 yn llai o ymweliadau wedi bod i safleoedd ysbyty acíwt drwy ymyriadau yn y gymuned, mae 92% o’r cyfranogwyr yn argymell y gwasanaeth yn gryf i’w ffrindiau a’u teuluoedd, ac mae 85% wedi nodi newidiadau clinigol cadarnhaol a sylweddol.”

Dywedodd Paul Lee Rheolwr Hyfforddiant Dyfeisiau Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Roedd yn anrhydedd cael fy enwebu a ‘nghynnwys ar restr fer y wobr genedlaethol hon gan ei bod yn tynnu sylw at rôl a gwaith gwyddonwyr gofal iechyd yn y GIG.

“Ni fyddwn wedi cael yr enwebiad hwn heb gymorth gwych fy rheolwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a’m holl gydweithwyr sy’n gweithio yn yr adran dyfeisiau meddygol a hyfforddiant.

“Croesi bysedd gawn ni lwyddiant, ond beth bynnag fydd y canlyniad, mae’n helpu i godi proffil a chyfraniad gwyddonwyr gofal iechyd ym maes diogelwch cleifion a gwelliannau parhaus ar draws y GIG yng Nghymru.”

Caiff enillwyr Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd 2023 eu cyhoeddi ar 21 Ebrill.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here