16.7 C
Llanelli
Tuesday, October 13, 2026
Home Newyddion Lle NAWR AR AGOR: rhannau o Gastell Caernarfon sydd heb fod ar agor...

NAWR AR AGOR: rhannau o Gastell Caernarfon sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd ers canrifoedd — diolch i fuddsoddiad gwerth £5m

0
435
Credit  Buttress Architects 4 min
Credit Buttress Architects 4 min

Ar ôl tair blynedd o waith, mae’r prosiect gwella i brif borthdy’r Castell wedi’i gwblhau.

Heddiw, cyhoeddodd Cadw fod prosiect cadwraeth a datblygu 3 blynedd o hyd ym Mhrif Borthdy Castell Caernarfon wedi’i gwblhau — gan roi mynediad i rannau o’r castell nas gwelwyd yn agos ers canrifoedd.

Mae’r buddsoddiad mawr hwn, gwerth £5m, yn cynnwys gosod dec ar y to a lloriau newydd yn nhyrau’r porthdy. Mae lifft wedi’i osod hefyd sy’n caniatáu mynediad i bawb i’r lefelau uchaf — y tro cyntaf, yn ein tyb ni, ar gyfer unrhyw safle Treftadaeth y Byd tebyg yn y DU. Bydd y prosiect yn sicrhau bod y castell yn groesawgar ac yn hygyrch ac yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i economi’r ardal leol. Mae cynnig arlwyo newydd, mannau addysgol a manwerthu, a chyfleusterau hygyrch i ymwelwyr hefyd wedi’u cynnwys yn y gwaith, gan gynnwys cyfleuster Llefydd Newid. Cefnogir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a gan £1.04 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r Rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth, a reolir gan Croeso Cymru. 

Yn ganolog i’r prosiect gwella mae dehongliad artistig newydd, sy’n canolbwyntio ar y thema: ‘y dwylo a adeiladodd y Castell’. Nod y dull modern hwn o ddehongli yw cyflwyno stori’r Castell o safbwynt gwahanol, gan annog ymwelwyr i ailfeddwl sut maen nhw’n gweld hanes y safle. Cefnogwyd y gwaith o gyflwyno’r prosiect gan Buttress Architects a Grosvenor Construction, a ailosododd lefelau llawr tyrau’r porthdy, yn ogystal ag adeiladu stepiau newydd o’r llawr cyntaf i’r dec ar y to, a gosod gwydr ysgafn clir i ddarparu mynediad heb stepiau i’r to.

Yn dilyn datblygiad mor helaeth, mae Cadw bellach yn annog ymwelwyr o bob oed a gallu i ddod i weld y golygfeydd eithriadol o’r murfylchau uchaf ar ddec y to nas gwelwyd o’r blaen ers canrifoedd.

Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae gwneud ein safleoedd hanesyddol yn fwy hygyrch yn ffordd wych — ac angenrheidiol — o ofalu am henebion hanesyddol Cymru er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

“Mae prosiectau gwella fel yr un yma yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at hanes Cymru a dysgu mwy am dreftadaeth y genedl. Bydd dehongliad newydd Cadw yn cefnogi hyn ymhellach, gan wahodd ymwelwyr i ddarganfod straeon llai adnabyddus o hanes y Castell.

“Dyma’r datblygiad diweddaraf yng Nghaernarfon ac y mae’r dref hefyd wedi elwa o raglen ddatblygu helaeth a pharhaus i wella ei statws ymhellach fel cyrchfan eiconig yng Nghymru.”

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw: “Hoffem ddiolch i’n hymwelwyr ac aelodau gwerthfawr Cadw am eu hamynedd yn ystod y tair blynedd o waith cadwraeth a datblygu yng Nghastell Caernarfon. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob gallu i brofi’r rhan hon o’r castell am y tro cyntaf ers canrifoedd, a gobeithiwn y bydd ein dehongliad newydd yn cynnig ffyrdd newydd i ymwelwyr ddeall stori’r Castell.

“Bydd dehongliad y dwylo a adeiladodd y Castell yn annog ymwelwyr i wneud yr union beth hwnnw — gan ganolbwyntio ar y gymuned a’r gweithwyr a fu’n byw yn y Castell. Mae eu straeon nhw yn aml yn droednodiadau yn hytrach na phrif ganolbwynt dehongliad hanesyddol. Bydd y dehongliad newydd hwn yn dangos y sgil a’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i adeiladu’r castell sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae hefyd yn cynnig cyd-destun a fydd yn rhoi dealltwriaeth lawnach o’r gwrthdaro dwys a fu rhwng y tywysogion Cymreig brodorol a brenhinoedd Lloegr.”

Am fwy o wybodaeth ac i archebu ymweliad â Chastell Caernarfon, ewch i https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-caernarfon?


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.