9.7 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home Events DATHLU’R GYMRAEG YN UN O WYLIAU LLENYDDOL MWYA’R BYD

DATHLU’R GYMRAEG YN UN O WYLIAU LLENYDDOL MWYA’R BYD

0
444
unnamed 3
unnamed 3

 

PWYNTIAU ALLWEDDOL:

Cychwynnodd un o wyliau llenyddiaeth mwyaf y byd, sy’n denu 2.1 miliwn o ymwelwyr, ar 26ain Ionawr yn Kolkata, India gyda’r DU yn wlad ffocws ddynodedig.

Mae Llywodraeth Cymru, Y Cyngor Prydeinig, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llenyddiaeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Gŵyl Lenyddiaeth Kolkata.

Ymunodd Bardd Plant Cymru, Nia Morais, â’r drafodaeth banel a chynhaliodd sesiwn farddoniaeth gyda beirdd Bangla i arddangos yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai 2024 yw blwyddyn Cymru yn India. Bydd dathliadau blwyddyn gyfan yn dod â’r ddwy wlad ynghyd trwy gyfres o ddigwyddiadau, straeon a gweithgareddau ac yn dathlu’r ddau ddiwylliant.

I gychwyn y flwyddyn, arweiniodd Bardd Plant Cymru, Nia Morais, drafodaeth banel yng Ngŵyl Lenyddiaeth Kolkata, cynhaliodd sesiynau llenyddiaeth plant a thrafodaethau ar yr iaith Gymraeg.

Fel rhan o Ffair Lyfrau Ryngwladol Kolkata, mae Gŵyl Lenyddiaeth Kolkata yn un o wyliau llenyddiaeth mwyaf y byd gyda tua 2.1 miliwn o fynychwyr ac mae wedi’i lleoli yng ngogledd-ddwyrain India.

Nia Morais yw Bardd Plant Cymru ar gyfer 2023-2025 sy’n rôl lysgenhadol genedlaethol â’r nod o ysbrydoli a grymuso plant a phobl ifanc trwy lenyddiaeth. Mae hi’n awdur a dramodydd o Gaerdydd, Cymru sy’n canolbwyntio ar hunanddelwedd, iechyd meddwl a hud a lledrith. Caiff y cynllun ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Meddai Nia Morais – Bardd Plant Cymru:

“Un o fy mhrif amcanion fel Bardd Plant Cymru yw helpu pobl ifanc Cymru i fanteisio ar eu creadigrwydd a chael hwyl yn chwarae gyda geiriau yn y Gymraeg. Dwi am brofi nid yn unig y gall unrhyw un fod yn greadigol, ond hefyd y gellir defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell dosbarth.

Rydym yn genedl sydd â threftadaeth ddiwylliannol gref, a hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol sy’n esblygu bob dydd: felly, gall defnyddio’r Gymraeg i greu helpu plant Cymru i freuddwydio am ddyfodol teg, gwyrdd a charedig i’n gwlad.”

Dywedodd Mitch Theaker, Diplomydd Cyntaf Cymru i India a Phennaeth India ar gyfer Llywodraeth Cymru:

“Mae Cymru yn India 2024 yn ymwneud ag arddangos y gorau o’n gwlad a chryfhau’r berthynas rhwng dwy wlad o ddiwylliant ac arloesedd. Mae’r ŵyl yn llwyfan hynod i arddangos ein hiaith a’n hunaniaeth unigryw o flaen 2.1 miliwn o bobl. Mae’r DU wedi’i chreu o wledydd gwahanol, pob un yn haeddiannol falch o’u hiaith, hanes, hunaniaeth, a diwylliant.

Mae’r digwyddiad hwn yn nodi pennod arall yn y cyfnewidiadau ieithyddol a diwylliannol cyfoethog rhwng Cymru ac India. Mae ein hymdrechion i ddathlu a chryfhau ein hieithoedd unigryw ar y cyd, wedi datgelu dyfnder ein cysylltiadau. Wrth i ni symud drwy’r flwyddyn, edrychwn ymlaen at amlygu’r cysylltiadau hyn a rennir ymhellach, a hynny yn ysbryd parch a dysg.”

Dywedodd Nicola Morgan o Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

‘Trwy gydol 2024, mae Blwyddyn Cymru ac India yn cynnig cyfle newydd i ddathlu a dyfnhau’r cysylltiadau creadigol hirsefydlog rhwng y ddwy wlad. Wrth i Ddegawd Rhyngwladol Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig gyrraedd ei thrydedd blwyddyn, mae’n arbennig o gyffrous i Nia, yn ei rôl fel Bardd Plant Cymru, gael ei gwahodd i Ŵyl Lenyddiaeth Kolkata.

Trwy ei chydweithrediad â beirdd Bangla a gweithdai sy’n rhannu straeon a hunaniaeth amrywiol Cymru drwy’r Gymraeg, mae hi wedi ffurfio cysylltiadau newydd â’r torfeydd o gynulleidfaoedd ifanc sy’n byw eu bywydau bob dydd trwy ieithoedd lluosog. Mae’r celfyddydau’n cynnig ffordd bwysig o wrando ar ieithoedd a diwylliannau eraill yn ogystal ag arf pwerus i rannu profiadau a hunaniaethau gwahanol.’

Prif amcan Nia fel Bardd Plant Cymru yw helpu i greu cyfleoedd i blant ac unigolion ifanc fynegi eu barn ar bynciau sy’n bwysig iddynt, ac syn brin mewn llenyddiaeth Gymraeg. Mae Nia yn credu mewn dangos bod y Gymraeg yn gynhwysol i bawb, gan hybu diwylliant o bositifrwydd a pharch.

I dderbyn y newyddion diweddaraf am Gymru yn India, dilynwch @WalesInIndia ar twitter a Wales in India ar LinkedIn.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.