11.9 C
Llanelli
Sunday, October 25, 2026
Home Events Urdd yn diolch i gefnogwyr am sicrhau gwyliau haf i 300 o...

Urdd yn diolch i gefnogwyr am sicrhau gwyliau haf i 300 o blant difreintiedig

0
456
Gweithgaredd Glan llyn Activity
Gweithgaredd Glan llyn Activity
Credit: www.urdd.cymru

Mae Urdd Gobaith Cymru yn diolch o galon i gefnogwyr am alluogi’r Mudiad i gynnig gwyliau haf i fwy nag erioed o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi neu dan amgylchiadau heriol.

Diolch i gyfraniadau gan unigolion, cymdeithasau, busnesau a chynghorau lleol at y gronfa ‘Cyfle i Bawb’ mi fydd modd i’r Urdd gynnig lle i 300 o blant a phobl ifanc difreintiedig ar Wersylloedd Haf y Mudiad eleni, o’i gymharu â 110 y llynedd.

Bob haf ers 2019 mae’r Gronfa wedi galluogi i gannoedd o blant a phobl ifanc difreintiedig i fwynhau gwyliau yng ngwersylloedd yr Urdd. Bu i’r Urdd ail-lansio apêl ‘Cyfle i Bawb – Gwersylloedd Haf yr Urdd’ ym mis Tachwedd a mwy na dyblu’r targed ar gyfer 2024 ar ôl derbyn y fwyaf erioed o geisiadau am wyliau haf drwy nawdd y Gronfa yn 2023.

Mae modd i rieni, gwarcheidwaid neu ysgolion lenwi’r ffurflen gais yma er mwyn gwneud cais am wyliau ar ran plentyn drwy nawdd y Gronfa. Dyddiad cau ceisiadau yw 19 Ebrill 2024.

Ymwelwyr Gwersyll Llangrannog visitors

Mae’r cyhoeddiad wedi’i groesawu gan rieni’r rheiny fynychodd Wersyll Haf llynedd drwy nawdd Cronfa Cyfle i Bawb.

“Roedd y ddwy ferch yn ddigon lwcus i gael gwyliau haf llynedd drwy gefnogaeth Cronfa i Bawb yr Urdd, ac maen nhw’n dal i siarad amdano heddiw!” meddai un rhiant, Emily Bolwell o Gasnewydd. “Roedd y merched wrth eu bodd yn gallu defnyddio eu Cymraeg tu allan i’r ysgol ac maen nhw wedi cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau newydd.”

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Diolch o waelod calon i’r holl gyfranwyr am gefnogi ein hymgyrch, a rhoi cyfle i fwy nag erioed o blant sy’n profi tlodi neu fywyd heriol i fwynhau yng Ngwersylloedd Haf yr Urdd eleni. Mae mynd ar wyliau haf yn rhywbeth mae rhai yn ei gymryd yn ganiataol, ond mae llawer o blant yng Nghymru yn byw mewn amgylchiadau lle nad oes cyfle i gael gwyliau haf.

“Mae’r Urdd – a’r Gymraeg – yn perthyn i bawb, ac mae’n bwysig i ni fel Mudiad i estyn allan a sicrhau bod cyfleodd ar gael ac yn cael eu cynnig i bob plentyn yng Nghymru. Diolch i garedigrwydd unigolion, cymdeithasau, busnesau a chynghorau lleol fel ei gilydd bydd modd i blant a phobl ifanc o deuluoedd incwm isel, o dan adain gwasanaethau cymdeithasol, gofalwyr ifanc a phlant maeth fwynhau gwyliau haf eleni.”

Bydd 19 o Wersylloedd Haf yn cael eu cynnal rhwng Gwersyll Glan-llyn, Llangrannog, Pentre Ifan a Chaerdydd yr haf hwn. Mae’r Gwersylloedd Haf yn cynnwys cwrs perfformio, cyrsiau llesiant, gwersylloedd i ddysgwyr yn ogystal â gwersylloedd antur a gwersylloedd haf traddodiadol i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed. Mae rhestr lawn o ddyddiadau Gwersylloedd Haf 2024 yr Urdd ar gael yma.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.