Mae Ruth Hockly, gwirfoddolwr o’r Drenewydd, yn cymryd cam yn ôl o wirfoddoli eleni, ar ôl 59 mlynedd o wasanaethu ei chymuned leol.
Mae Ruth, sy’n gwirfoddoli gydag Adran St John Ambulance Cymru ym Metws Cedewain, wedi cyflawni sawl rôl o fewn y sefydliad ers ymuno yn 1965.
Mae pawb yn yr elusen, yn enwedig cyd-wirfoddolwyr Ruth ym Mhowys, yn estyn eu diolch i Ruth am bopeth mae hi wedi’i wneud i’r elusen a’i chymuned leol yn ystod y cyfnod hwn.
Rôl ddiweddaraf Ruth oedd y Swyddog â Gofal dros Adran Metws Cedewain, gan arwain gwirfoddolwyr eraill yn yr ardal. Mae Ruth hefyd wedi ymrwymo llawer iawn o amser i raglen Badgers St John Ambulance Cymru, sy’n rhedeg ar gyfer plant 5-11 oed ledled Cymru.
Mae Ruth wedi arwain y grŵp Badgers lleol ers y diwrnod cyntaf i’r grŵp ddechrau ac mae wedi bod yn arweinydd ymroddedig ers hynny. Mae hi wedi dysgu cymorth cyntaf i genedlaethau o blant lleol, yn ogystal ag amrywiaeth o bynciau addysgol a hwyliog eraill.

Yn ystod ei chyfnod fel gwirfoddolwr, mae gwaith Ruth wedi cael ei gydnabod yn swyddogol gan Briordy Cymru, sy’n Briordy annibynnol o fewn Urdd St John, Urdd Sifalri gweithredol y Goron Brydeinig.
Yn gynharach eleni, cafodd Ruth hefyd ei chydnabod fel rhan o Wobrau Gweithlu’r Tîm Plant a Phobl Ifanc Cenedlaethol, am ei gwaith caled parhaus fel Arweinydd ar gyfer Badgers.
Dywedodd cyd-wirfoddolwr Ruth ym Mhowys, Julie Carrod: “Mae Ruth wedi bod yn gyson o fewn ein grwpiau ieuenctid ym Mhowys. Mae ei blynyddoedd o brofiad wedi bod yn amhrisiadwy i arweinwyr newydd, gyda Ruth bob amser yn barod i rannu ei gwybodaeth, ei phrofiad a’i doethineb gyda ni i gyd.
“Mae cymaint o bobl ifanc wedi cyflawni eu gwobr Super Badger diolch i arweiniad, brwdfrydedd ac angerdd Ruth. Mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i gymaint, gan sicrhau bod yr ifanc yn datblygu i fod yn fodelau rôl gwych.”
Mae David Gardner, Prif Gomisiynydd Cynorthwyol St John Ambulance Cymru wedi gweithio ochr yn ochr â Ruth ers nifer o flynyddoedd, a dywedodd: “Mae Ruth wedi dangos blynyddoedd o ymroddiad i’r elusen ac wedi bod yn hynod ragweithiol yn rhoi’r cyfleoedd gorau i bobl ifanc.
“Mae rhai o Badgers Ruth wedi mynd ymlaen i fod yn bobl lwyddiannus iawn yn eu bywydau fel oedolion ac rwy’n siŵr bod y dysgu a gawsant fel Badgers gyda Ruth wedi eu helpu ar eu ffordd.”
Mae gwasanaeth Ruth i St John Ambulance Cymru a’i chymuned ehangach wedi bod yn anhygoel, gan ddysgu sgiliau cymorth cyntaf achub bywyd i genedlaethau o bobl ifanc, a helpu i ddarparu cymorth cyntaf hanfodol mewn digwyddiadau yn ei chymuned.
Mae elusen cymorth cyntaf Cymru wedi estyn eu diolch o galon i Ruth am ei gwaith caled a’i hymroddiad dros y 59 mlynedd diwethaf, sy’n ysbrydoliaeth i wirfoddolwyr ledled Cymru.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am raglen Badgers St John Ambulance Cymru, sy’n cael ei rhedeg ledled Cymru, ewch i www.sjacymru.org.uk/badgers.
Mae elusen cymorth cyntaf Cymru yn recriwtio gwirfoddolwyr i ymuno â’u timau, ac os hoffech gefnogi pobl ifanc yn eich cymuned, dysgu sgiliau achub bywyd a darparu cymorth cyntaf ar gyfer ddigwyddiadau cyffrous ledled y wlad, ewch i www.sjacymru.org.uk/volunteer.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |



















