22.6 C
Llanelli
Wednesday, July 22, 2026
Home Driving Mortorway Gwaith ffordd hanfodol i’w wneud ar yr A40

Gwaith ffordd hanfodol i’w wneud ar yr A40

0
388
The A40 entering Llandovery   geograph.org .uk   4676587
The A40 entering Llandovery geograph.org .uk 4676587

Caiff modurwyr eu cynghori i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio ar yr A40 rhwng Halfway a Llanymddyfri rhwng 12 Hydref a 6 Mai wrth i waith ffordd sylweddol gael ei wneud i sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd hirdymor y ffordd.

Bydd y gwaith, sy’n cynnwys atgyweirio llethr lle y mae tebygolrwydd o dirlithriad a gosod system ddraenio newydd a rhwystrau diogelwch ar y llwybr, yn cael ei wneud dros ambell benwythnos neu noson pan fydd y ffordd ar gau ac un lôn ar gau gan ddefnyddio signalau traffig dros dro yn ystod yr wythnos. Mae’r holl gamau hyn wedi’u rhoi ar waith i geisio sicrhau cyn lleied o â phosibl o aflonyddwch.

Bydd terfyn cyflymder dros dro o 40mya hefyd mewn grym drwy gydol y gwaith.

Bydd angen i’r lôn tua’r gorllewin barhau ar gau y tu allan i gyfnodau cau’r ffordd er mwyn diogelu defnyddwyr y ffordd rhag ansefydlogrwydd dros dro llethr y toriad tra bod y gwaith yn cael ei wneud. Bydd hyn yn cael ei adolygu wrth i’r gwaith fynd rhagddo a bydd y lôn yn ailagor pryd bynnag y bo modd yn ystod cyfnod y cynllun.

Mae’r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall y ffordd aros ar agor yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi aflonyddwch yn y tymor byr tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, ac rydym yn diolch i yrwyr am eu hamynedd.  Mae’n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud nawr er mwyn sicrhau cadernid y ffordd yn y dyfodol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.