16 C
Llanelli
Saturday, July 4, 2026
Home Newyddion Lle Hwb benthyca o £120m i gynghorau lleol drwsio ffyrdd

Hwb benthyca o £120m i gynghorau lleol drwsio ffyrdd

0
429
CSHLG 250306 scaled
CSHLG 250306 scaled

Cyn hir, bydd cynghorau lleol yn gallu cael mynediad at hyd at £120m i atgyweirio mwy o ffyrdd lleol dros y ddwy flynedd nesaf, o dan gynlluniau newydd a nodir yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2025-26.

Bydd y fenter fenthyca llywodraeth leol newydd yn darparu £10m o gyllid refeniw ychwanegol i gynghorau lleol i’w galluogi i ddatgloi £120m o gyllid cyfalaf ychwanegol i gyflymu’r broses o drwsio ein ffyrdd a’n palmentydd lleol.

Bydd y cynllun yn cael ei ddylunio mewn partneriaeth agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a bydd ar agor i geisiadau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu helpu cynghorau lleol i gael mynediad at y cyllid angenrheidiol hwn i’w galluogi i gyflymu rhywfaint o’r gwaith atgyweirio y mae mawr ei angen ar ffyrdd lleol ledled Cymru.

“Mae cysylltu ein cymunedau trwy drwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth allweddol i ni a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i wella gwydnwch ffyrdd Cymru yn y dyfodol.”

Wrth siarad yn ystod ymweliad i weld prosiect ym Merthyr Tudful a fydd yn elwa ar y cyllid, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:

“Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn tystio i’n hymrwymiad i wella seilwaith lleol ledled Cymru. Mae’r ffyrdd a’r palmentydd sy’n cysylltu ein cymunedau yn hanfodol, a bydd yr hwb hwn o £120m yn helpu Awdurdodau Lleol i fynd i’r afael ag atgyweiriadau yn gyflymach ac yn fwy effeithiol.

“Rwyf wedi gweld drosof fy hun heddiw sut y bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau lleol. Trwy gydweithio â’n Hawdurdodau Lleol partner, rydym yn cymryd camau pendant i wella cyflwr ein ffyrdd er budd pawb sy’n eu defnyddio.”

Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC a’r llefarydd ar drafnidiaeth:

“Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y fenter hon dros y misoedd diwethaf ac rwy’n falch iawn o’i gweld yn dwyn ffrwyth. Roedd menter flaenorol rhwng 2012 a 2014 yn hynod lwyddiannus ac yn dangos yr hyn y gall cynghorau ei gyflawni pan fydd y lefel gywir o gyllid ar gael.

“Bydd y cyllid hwn yn galluogi gwelliannau sylweddol i ffyrdd, palmentydd a phontydd ledled Cymru.”

Fis diwethaf fe wnaeth Mr Skates hefyd gyhoeddi hwb ariannol o £25m i adnewyddu 100km ychwanegol o brif ffyrdd Cymru ac atal tua 30,000 o dyllau a diffygion ffyrdd yn y flwyddyn ariannol newydd


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.