Arweinwyr Cyngor Plaid Cymru yn beirniadu Llafur am fethu â darparu cyllid teg i gymunedau Cymru
Mewn ymateb i raglen Balchder Bro Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ar 25/9/25, ble fo £214m o gyllid yn cael ei ddarparu i Gymru i rymuso cymunedau lleol i gefnogi cyfleusterau lleol, mae pedwar Arweinydd Cyngor Plaid Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn dweud bod “Llafur wedi cefnu ar ei gwerthoedd a’u haddewidion i ddarparu cyllid teg i gymunedau Cymru.”
Mae Plaid Cymru yn deall y bydd y rhaglen Balchder Bro yn targedu cymdogaethau â phoblogaethau o tua 10,000, sy’n golygu y bydd llawer o gymunedau mewn rhannau gwledig o Gymru yn colli allan.
Cyn araith Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yng Nghynhadledd Llafur y prynhawn yma, lle bydd hi’n dweud y bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi mwy na £200m i adfywio strydoedd mawr ac adfywio cymunedau yng Nghymru, mae’r Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd a’r Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn wedi galw Llywodraeth Lafur allan am eu “diystyriaeth barhaus o’n cymunedau gwledig sydd wedi cael eu tan-ariannu’n anghymesur dros y blynyddoedd”.
Dywedodd Darren Price, Bryan Davies, Nia Jeffreys a Gary Pritchard, Arweinwyr Cyngor Plaid Cymru:
“Mae unrhyw gyllid ar gyfer cymunedau ledled Cymru yn cael ei groesawu, ond mae’n amlwg nad yw hyn yn deillio o ddealltwriaeth o anghenion Cymru. Mae’n fotwm panig gwleidyddol sydd wedi ei bwyso gan Lafur cyn etholiad anodd. Mae pobl Cymru yn gweld trwy hynny – maent eisoes wedi gweld bod Llafur wedi cefnu ar eu gwerthoedd a’u haddewidion i ddarparu cyllid teg i gymunedau Cymru.
“Mae’r rhaglen Balchder Bro yma’n targedu cymdogaethau â phoblogaethau o tua 10,000 yn benodol – dim ond llond llaw o’r rheini sydd yn y pedwar awdurdod lleol gorllewinol yr ydym yn eu rheoli. Mae hyn yn tynnu sylw at anwybyddu parhaus Llywodraeth Lafur o’n cymunedau gwledig sydd wedi cael eu tan-ariannu’n anghymesur dros y blynyddoedd, gyda nifer fawr o ardaloedd ledled Cymru yn disgyn o dan y trothwy hwn ac yn colli allan ar y gefnogaeth sydd fawr ei angen.
“Mae’r Llywodraeth Lafur hon yn twyllo awdurdodau lleol yng Nghymru – o fethu â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus, i gadw cynghorau yn y tywyllwch dros pam nad ydynt yn gymwys i gael cyllid o dan y rhaglen Balchder Bro. Dyma’r awdurdodau lleol sy’n ariannu ein hysgolion, yn darparu gofal cymdeithasol i’n hanwyliaid, ac yn cynnal ein mannau a’n cyfleusterau cyhoeddus. Nid yw’r llywodraeth yma o ddifri ynglŷn â chyflawni newid go iawn ar lawr gwlad.”
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |


















