15.8 C
Llanelli
Saturday, May 30, 2026
Home Glangwili Mae taith tractorau yn codi dros £4,600 ar gyfer Uned Gofal Arbennig...

Mae taith tractorau yn codi dros £4,600 ar gyfer Uned Gofal Arbennig i Fabanod

0
130
Cwm Gwendraeth tractor run cheque presentation

Mae Taith Tractorau Nadolig Cwm Gwendraeth wedi codi £4,688.51 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Nigel Davies ac Anwen Davies, tad a merch o Bontyberem, drefnodd y daith tractorau Nadolig a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2025 ym Mhontyberem. Dyma eu pedwerydd digwyddiad codi arian taith tractorau ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda ac elusennau lleol eraill.

Dywedodd Anwen: “Roedd y daith tractorau yn wych. Bob blwyddyn mae’n gwella. Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd, a gymerodd ran, a helpodd i drefnu ac a roddodd o’u hamser.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Diolch i Anwen, Nigel a phawb a fu’n rhan o gefnogi Taith Tractorau Nadolig Cwm Gwendraeth.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here