Mae Dŵr Cymru’n gofyn i gwsmeriaid i helpu i leihau’r defnydd o ddŵr ar ôl cyfnod estynedig o alw mawr.
Mae’r cwmni wedi nodi bod y defnydd o ddŵr 17% yn uwch na’r arfer, gyda’r galw’n aros yn uwch am gyfnod estynedig bob dydd, a dros nos hefyd.
Mae’r galw wedi cyrraedd 900 megalitr y dydd ers 21 Mehefin, mwy na 950 megalitr y dydd ers dydd Llun, 6 Gorffennaf, a may na 1000 megalitr y dydd ers dydd Iau, 9 Gorffennaf.
Tua 850 megalitr y dydd yw’r galw arferol ar gyfer y cwmni, felly mae’r cwmni’n gweithio ar sail cynnydd o tua 150-200 megalitr y dydd – sef tua 264-352 miliwn peint o ddŵr.
Er mwyn helpu i gadw’r cyflenwadau’n llifo, mae cannoedd o gydweithwyr y rheng flaen yn gweithio rownd y cloc, gan gynyddu’r dŵr sy’n cael ei gynhyrchu, symud dŵr o gwmpas y rhwydwaith, a thrwsio gollyngiadau cyn gynted â phosibl.
Mae’r cwmni’n dweud ei fod yn ymateb i lefel ddigynsail o alw, ond mae’n dod yn agosach at bwynt lle byddai cyflenwi dŵr yn ddigon cyflym i fodloni’r galw yn fwyfwy anodd.
Dywedodd Prif Swyddog Cwsmeriaid Dŵr Cymru, Kit Wilson: “Mae’r tywydd poeth iawn a’r cyfnod estynedig o dywydd sych yn ystod trydedd don wres y flwyddyn yn golygu bod pobl yn defnyddio mwy o ddŵr o lawer ac am gyfnod hirach trwy gydol y dydd.
“Mae ein timau’n gweithio rownd y cloc, yn trin mwy o ddŵr, yn symud cyflenwadau gan ddefnyddio tanceri ac yn trwsio gollyngiadau. Ond mae angen cymorth cwsmeriaid arnom ni hefyd.
“Byddai newidiadau bach gan lawer o bobl yn gwneud gwahaniaeth mawr. Trwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth, gall cwsmeriaid ein helpu ni i gadw’r tapiau’n llifo ac osgoi’r angen am fesurau pellach os bydd y tywydd poeth yn parhau.”
Mae’r cwmni’n annog cwsmeriaid i wneud newidiadau syml, gan gynnwys defnyddio can dyfrio yn hytrach na thaenellwr, gadael i lawntiau ymadfer yn naturiol, ailddefnyddio dŵr o byllau padlo ar yr ardd, defnyddio jwg i oeri dŵr yn yr oergell yn hytrach na rhedeg y tap nes bod y dŵr yn ddigon oer, a pheidio â chynnau’r peiriannau golchi llestri a dillad nes bod llwyth llawn. Gall y camau bach yma arbed miliynau o litrau o ddŵr, a helpu i ddiogelu cyflenwadau ar gyfer cymunedau a’r amgylchedd.
Ystadegau allweddol
- Cyflenwyd 1 biliwn litr o ddŵr yfed ar ein diwrnod prysuraf
- Mae’r galw gan gwsmeriaid 20% yn uwch na mis Gorffennaf cyfartalog
- 30 o danceri’n cludo cyflenwadau ar draws y rhwydwaith
- Gweithredu 24/7 trwy gydol y don wres
- Cannoedd o gydweithwyr y rheng flaen yn gweithio rownd y cloc
- Cyflawni miloedd o brofion ychwanegol ar ansawdd dŵr
- Trwsiwyd 200 byrst ar brif bibellau dros y pythefnos diwethaf
- Trwsiwyd 995 o ollyngiadau dros y pythefnos diwethaf
- Trwsiwyd 200 byrst ar brif bibellau dros y pythefnos diwethaf
- Cyflawni miloedd o brofion ychwanegol ar ansawdd dŵr
- Cannoedd o gydweithwyr y rheng flaen yn gweithio rownd y cloc
- Gweithredu 24/7 trwy gydol y don wres
- 30 o danceri’n cludo cyflenwadau ar draws y rhwydwaith
- Mae’r galw gan gwsmeriaid 20% yn uwch na mis Gorffennaf cyfartalog
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |




















