25.7 C
Llanelli
Wednesday, July 15, 2026
Home Welsh Water Dŵr Cymru’n gofyn am gymorth cwsmeriaid i helpu i gadw’r tapiau’n llifo...

Dŵr Cymru’n gofyn am gymorth cwsmeriaid i helpu i gadw’r tapiau’n llifo wrth i’r galw basio biliwn litr y dydd yn y drydedd don wres eleni

0
52
WELSH WATER LOW RES 82

Mae Dŵr Cymru’n gofyn i gwsmeriaid i helpu i leihau’r defnydd o ddŵr ar ôl cyfnod estynedig o alw mawr.  

Mae’r cwmni wedi nodi bod y defnydd o ddŵr 17% yn uwch na’r arfer, gyda’r galw’n aros yn uwch am gyfnod estynedig bob dydd, a dros nos hefyd.

Mae’r galw wedi cyrraedd 900 megalitr y dydd ers 21 Mehefin, mwy na 950 megalitr y dydd ers dydd Llun, 6 Gorffennaf, a may na 1000 megalitr y dydd ers dydd Iau, 9 Gorffennaf.

Tua 850 megalitr y dydd yw’r galw arferol ar gyfer y cwmni, felly mae’r cwmni’n gweithio ar sail cynnydd o tua 150-200 megalitr y dydd – sef tua 264-352 miliwn peint o ddŵr.

Er mwyn helpu i gadw’r cyflenwadau’n llifo, mae cannoedd o gydweithwyr y rheng flaen yn gweithio rownd y cloc, gan gynyddu’r dŵr sy’n cael ei gynhyrchu, symud dŵr o gwmpas y rhwydwaith, a thrwsio gollyngiadau cyn gynted â phosibl. 

Mae’r cwmni’n dweud ei fod yn ymateb i lefel ddigynsail o alw, ond mae’n dod yn agosach at bwynt lle byddai cyflenwi dŵr yn ddigon cyflym i fodloni’r galw yn fwyfwy anodd.

Dywedodd Prif Swyddog Cwsmeriaid Dŵr Cymru, Kit Wilson: “Mae’r tywydd poeth iawn a’r cyfnod estynedig o dywydd sych yn ystod trydedd don wres y flwyddyn yn golygu bod pobl yn defnyddio mwy o ddŵr o lawer ac am gyfnod hirach trwy gydol y dydd.

“Mae ein timau’n gweithio rownd y cloc, yn trin mwy o ddŵr, yn symud cyflenwadau gan ddefnyddio tanceri ac yn trwsio gollyngiadau. Ond mae angen cymorth cwsmeriaid arnom ni hefyd.

“Byddai newidiadau bach gan lawer o bobl yn gwneud gwahaniaeth mawr. Trwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth, gall cwsmeriaid ein helpu ni i gadw’r tapiau’n llifo ac osgoi’r angen am fesurau pellach os bydd y tywydd poeth yn parhau.”

Mae’r cwmni’n annog cwsmeriaid i wneud newidiadau syml, gan gynnwys defnyddio can dyfrio yn hytrach na thaenellwr, gadael i lawntiau ymadfer yn naturiol, ailddefnyddio dŵr o byllau padlo ar yr ardd, defnyddio jwg i oeri dŵr yn yr oergell yn hytrach na rhedeg y tap nes bod y dŵr yn ddigon oer, a pheidio â chynnau’r peiriannau golchi llestri a dillad nes bod llwyth llawn. Gall y camau bach yma arbed miliynau o litrau o ddŵr, a helpu i ddiogelu cyflenwadau ar gyfer cymunedau a’r amgylchedd. 

Ystadegau allweddol

  • Cyflenwyd 1 biliwn litr o ddŵr yfed ar ein diwrnod prysuraf
    • Mae’r galw gan gwsmeriaid 20% yn uwch na mis Gorffennaf cyfartalog
      • 30 o danceri’n cludo cyflenwadau ar draws y rhwydwaith
        • Gweithredu 24/7 trwy gydol y don wres
          • Cannoedd o gydweithwyr y rheng flaen yn gweithio rownd y cloc
            • Cyflawni miloedd o brofion ychwanegol ar ansawdd dŵr
              • Trwsiwyd 200 byrst ar brif bibellau dros y pythefnos diwethaf
                • Trwsiwyd 995 o ollyngiadau dros y pythefnos diwethaf

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.