25.5 C
Llanelli
Tuesday, July 14, 2026
Home Events Theatr awyr agored yn dod â dirgelwch a cherddoriaeth i Gastell Caeriw’r...

Theatr awyr agored yn dod â dirgelwch a cherddoriaeth i Gastell Caeriw’r haf hwn

0
79
SMALLOpen air theatre

Mae disgwyl i nosweithiau’r haf yng Nghastell Caeriw fod yn llawn cyffro Baskerville, caneuon y jyngl a theatr i’r teulu cyfan, wrth i ddwy stori boblogaidd ddod yn fyw ar dir Castell Caeriw.

Dewch â phicnic, blanced neu gadair â chefn isel i Gastell Caeriw i fwynhau perfformiad byw yn un o leoliadau hanesyddol mwyaf atmosfferig Sir Benfro. Bydd diodydd poeth a hufen iâ ar gael yn ystod y digwyddiad.

Bydd y cyntaf o’r perfformiadau awyr agored yng Nghaeriw yn digwydd ar ddydd Iau 30 Gorffennaf, pan fydd Cwmni Theatr Pantaloons, sydd wedi ennill clod mawr, yn perfformio cynhyrchiad newydd sbon o Sherlock Holmes a The Hound of the Baskervilles.

Mae’r sioe yn dilyn Holmes a Watson wrth iddynt ymchwilio i gyfrinach melltith teulu Baskerville, sy’n llawn cerddoriaeth fyw, cyfleoedd i ryngweithio â’r gynulleidfa a digonedd o hwyl theatrig. Mae’r cynhyrchiad yn addas i bob oed ond rydym yn annog rhieni i ystyried addasrwydd. Mae’n addo i fod yn noswaith o ddirgelwch, dryswch a chwerthin ar dir y Castell.

Y dydd Mawrth canlynol, 4 Awst, bydd The Jungle Book yn cyrraedd y castell, pan fydd Immersion Theatr yn dod â’u hegni nodweddiadol i greu addasiad cerddorol newydd o stori sydd ar restr ffefrynnau bob teulu.

Bydd y sioe, sy’n llawn cerddoriaeth wreiddiol, cyfleoedd i’r gynulleidfa gymryd rhan a chymeriadau dros ben llestri, yn dilyn Mowgli, Baloo a Bagheera ar antur wyllt drwy’r jyngl gyda mwncïod direidus, neidr a’r teigr ffyrnig, Shere Khan. Caiff y sioe ei hargymell i blant dros bedair oed, ac mae’n addo i fod yn noswaith ddoniol a chyffrous i ddiddanu’r teulu cyfan.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Yr hyn sy’n gweithio mor dda am theatr awyr agored yng Nghastell Caeriw yw ei naws hamddenol a chymdeithasol. Gall pobl ddod â phicnic, treulio amser gyda theulu a ffrindiau a mwynhau theatr deithiol broffesiynol heb orfod poeni am awyrgylch ffurfiol theatrau traddodiadol.

“Mae’r cynyrchiadau eleni yn cynnig dau brofiad cwbl wahanol, o hiwmor a dirgelwch Sherlock Holmes and The Hound of the Baskervilles, i liw, cerddoriaeth ac egni The Jungle Book. Dyma’r union fath o berfformiadau sy’n gweithio’n dda yn yr awyr agored, gan roi cyfle i deuluoedd a chefnogwyr theatr i fwynhau.”

Bydd y gatiau’n agor am 5.30pm i Sherlock Holmes and The Hound of the Baskerville nos Iau 30 Gorffennaf, a bydd y perfformiad yn dechrau am 6.30pm. Mae’n para tua dwy awr yn fras, gydag egwyl.

Ar gyfer The Jungle Book nos Fawrth 4 Awst, bydd y gatiau’n agor am 4.45pm a bydd y sioe yn dechrau am 5.30pm. Mae’r perfformiad yn para tua awr a 25 munud yn fras, gydag egwyl rhwng y ddwy act.

Mae tocynnau’n £16 i oedolion, £12 i blant rhwng 3 a 16 neu £50 am docyn teulu i ddau oedolyn a dau blentyn, neu dri oedolyn ac un plentyn. Rhaid cadw lle yn www.castellcaeriw.com.

Ni ellir cael arian yn ôl am y tocynnau a bydd y perfformiadau yn dal i gael eu cynnal mewn tywydd gwlyb, felly rydym yn annog ymwelwyr i wisgo dillad cynnes sy’n dal dŵr a dod â thortsh gyda nhw.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.