23.9 C
Llanelli
Wednesday, May 27, 2026
Home News Health News Camau cyntaf tuag at brosiect mamolaeth wrth i’r gwaith ddechrau ar y...

Camau cyntaf tuag at brosiect mamolaeth wrth i’r gwaith ddechrau ar y safle

0
706
Hywel Dda NHS 1 e1603192685501
Hywel Dda NHS 1 e1603192685501

Dechreuodd y gwaith yr wythnos diwethaf ar gyfleusterau obstetreg a’r newydd-anedig ar safle Ysbyty Glangwili, yn dilyn y buddsoddiad o £25.2 miliwn.

Bydd yr ail ran hwn o’r gwaith ailddatblygu yn cynyddu gallu cyfleusterau’r ysbyty. Bydd hyn yn cynnwys crudiau dibyniaeth uchel, crudiau gofal arbennig ac ystafelloedd dros nos i rieni, yn ogystal â chynnydd yn y nifer o ystafelloedd esgor, theatrau a baeau dadebru. Mae cynlluniau hefyd ar waith ar gyfer 45 o fannau parcio car ychwanegol.

Bydd y cynlluniau yn cynnwys amgylchedd modern ar gyfer darparu gwasanaethau obstetreg a’r newydd-anedig yng Nglangwili, ac yn mynd i’r afael â’r meysydd o bryder dybryd a amlygwyd yn adroddiad y Coleg Brenhinol i wasanaethau mamolaeth, y newydd-anedig a paediatrig y Bwrdd Iechyd.

Gwnaed y cyhoeddiad am yr arian gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar ei ymweliad â Glangwili ym mis Ebrill.

Bydd y datblygiad yn gwella profiad y cleifion a’u teuluoedd.

Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd: “Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod y gwaith wedi dechrau ar y prosiect hwn i wella’r amgylchedd a’r cyfleusterau i fenywod, babanod a’u teuluoedd.

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi hyder i’n poblogaeth y byddwn nawr yn bwrw ymlaen i wneud y gwelliannau hyn.”

Mae ail ran y gwaith ailddatblygu yn cynnwys:

•       Uned y newydd-anedig – 4 crud dibyniaeth uchel, 1 crud sefydlogi, lle ar gyfer 2 grud meithrin sengl, 1 cyntedd arwahanu, 8 crud gofal arbennig a 2 ystafell ddwbl dros nos i rieni
•       Ward esgor – 5 ystafell esgor safonol, 1 ystafell esgor gyda phwll sefydlog, 1 ystafell esgor â’r cyfarpar i ddelio â genedigaethau lluosog neu gymhleth ac ardal dibyniaeth uchel 6 gwely
•       Un ystafell brofedigaeth
•       Theatrau obstetreg – 2 theatr
•       Maes parcio – 45 lle parcio ychwanegol
•       Cyfleusterau ystafell hyfforddiant ar gyfer gweithio fel tîm aml-ddisgyblaethol, a gellir ei defnyddio ar gyfer dosbarthiadau magu plant

Gwneir pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl ar staff, ac ni fydd y gwaith adeiladu yn effeithio ar wasanaethau i gleifion a’u teuluoedd.

Mae disgwyl i’r cynllun ddod i ben erbyn 2020, a byddwn yn rhannu diweddariadau trwy gydol y prosiect.

Am y newyddion diweddaraf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, trowch at www.bihyweldda.wales.nhs.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here