
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad fod yr orsaf pwer yn Wylfa ddim yn mynd yn ei flaen, dwedodd AS dros Ynys Mon, Rhun ap Iowerth,
“Roedd Horizon yn dweud hyd at yr wythnosau diwethaf bod eu rhiant-gwmni, Hitachi, yn dal yn obeithiol o ennill cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn amlwg mae hynny wedi methu, a gobeithion y rhai fu’n dymuno gweld datblygiad gorsaf ynni newydd wedi cael eu codi a’u chwalu eto. I mi, dyma oedd y perygl mewn rhoi gormod o ddibyniaeth ar fuddsoddiad allanol ac ar allu llywodraeth y DU i ddelifro.
“Tra bydd angen ystyriaeth frys r诺an ar gyfer opsiynau amgen ar gyfer y safle, rhaid hefyd codi g锚r yn y gwaith o sicrhau cyfleon eraill yma ym M么n, yn cynnwys maesydd yr ydw i’n gefnogol iawn iddyn nhw, mewn ynni m么r, ynni hydrogen ac uwch-dechnoleg ym mharc gwyddoniaeth MSparc er enghraifft. Byddaf yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r her honno fel mater o flaenoriaeth.
“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen i weld Plaid Cymru yn dod a phencadlys corff cenedlaethol newydd Ynni Cymru i F么n.”

| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |











