10.7 C
Llanelli
Friday, October 23, 2026
Home Newyddion Lle Dweud eich dweud am lunio dyfodol economïau’r Canolbarth a’r De-orllewin

Dweud eich dweud am lunio dyfodol economïau’r Canolbarth a’r De-orllewin

0
580
img 9748
img 9748

Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn annog pawb yn y Canolbarth a’r De-orllewin i fynd ati i ddweud eu dweud am sut y dylid datblygu economïau’r ddau ranbarth yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, yn gweithio gyda phartneriaid yn y Canolbarth a’r De-orllewin i ddatblygu cyfres o flaenoriaethau a fydd yn allweddol er mwyn helpu economïau’r ddwy ardal i wella o effeithiau’r coronafeirws ac i ymateb i’r heriau sy’n gysylltiedig â’r ffaith bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y fframweithiau economaidd rhanbarthol yn hanfodol er mwyn helpu i sicrhau ffyniant i bawb, a byddant yn pennu pa gamau y mae angen eu cymryd er mwyn i’r rhanbarthau ffynnu. Byddant hefyd yn amlinellu sut i gyrraedd y nod hwnnw, a’r rôl bwysig a fydd gan sefydliadau, busnesau a chymunedau lleol i’w chwarae yn hynny o beth.

Gwahoddir unigolion a grwpiau, gan gynnwys plant a phobl ifanc, i rannu eu safbwyntiau ar sut, yn eu barn nhw, y gellir gwneud newid cadarnhaol ar gyfer dyfodol y ddau ranbarth.

Bydd pobl yn gallu mynegi barn, yn ogystal â rhannu eu dealltwriaeth a’u profiad, am ystod eang o faterion sy’n gysylltiedig â datblygu economaidd, gan amrywio o dwristiaeth a thrafnidiaeth i addysg a’r amgylchedd.

Bydd safbwyntiau pawb a fydd yn cymryd rhan o gymorth uniongyrchol gyda’r gwaith o ddatblygu’r fframweithiau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae fframweithiau economaidd rhanbarthol yn rhan bwysig o’m hymrwymiad i fabwysiadu dull mwy rhanbarthol o ddatblygu’n heconomi.

“Mae’n Prif Swyddogion Rhanbarthol a’u timau wedi sefydlu perthynas waith effeithiol gyda busnesau a phartneriaid ar draws y rhanbarth, a dw i am adeiladu ar hynny.

“Bydd y fframweithiau hyn yn hanfodol er mwyn dylanwadu ar weithgarwch yn y Canolbarth a’r De-orllewin ac er mwyn llywio’n polisïau, ein rhaglenni a’n blaenoriaethau gwario. Er mwyn llwyddo, mae’n hollbwysig ein bod yn cynnwys pawb sydd â diddordeb, a dw i’n falch iawn bod Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn chwarae rhan allweddol yn y broses honno.

“Rydyn ni am weld unigolion a grwpiau ledled y Canolbarth a’r De-orllewin yn cymryd rhan ac yn meddwl am yr heriau sy’n ein hwynebu, am sut rydym am fynd ati i’w hwynebu, a sut rydym am sicrhau bod ein heconomi’n ffynnu yn y dyfodol.

“Mae cydweithio’n hanfodol os ydym am fynd â’r maen i’r wal a dyna pam mae mor bwysig bod pawb sydd â diddordeb yn ymuno yn y sgwrs hon.

“Bydd y fframweithiau hyn yn sail i’n gwaith dros y blynyddoedd sydd i ddod ac yn allweddol er mwyn datblygu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer economi ffyniannus yn y dyfodol.”

Er mwyn bod yn rhan o’r drafodaeth, gall pobl naill ai gymryd rhan ar-lein, gofyn am becyn gweithgareddau i’w drafod gyda’u cydweithwyr, eu ffrindiau neu eu cymunedau neu fynd i un o 12 digwyddiad a fydd yn cael eu cynnal ar draws y rhanbarth ym misoedd Hydref a Thachwedd.

Nod Llywodraeth Cymru yw sefydlu’r fframweithiau economaidd rhanbarthol yn gynnar yn 2021.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/fframwaith-economaidd-canolbarth-de-orllwein-cymru neu anfonwch e-bost at canoladeorllewin@REF.cymru


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.