12.2 C
Llanelli
Tuesday, October 27, 2026
Home Newyddion Lle Atgyfnerthu’r Neges am Deithio Hanfodol ar gyfer digwyddiadau tymhorol yng Nghymru

Atgyfnerthu’r Neges am Deithio Hanfodol ar gyfer digwyddiadau tymhorol yng Nghymru

0
1704
social dist
social dist

Mae Trafnidiaeth Cymru yn atgoffa’r cyhoedd yng Nghymru mai dim ond siwrneiau hanfodol mae modd eu gwneud yn ystod y cyfnod atal byr, cyn digwyddiadau chwaraeon dros y penwythnos, ac yna Calan Gaeaf a noson tân gwyllt.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau ‘atal byr’ newydd i helpu i leihau lledaeniad Covid-19 ddydd Gwener diwethaf tan ddydd Llun 9 Tachwedd 2020.  Mae TrC yn atgyfnerthu’r neges bod cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn a dim ond os yw eu taith yn hanfodol y dylai pobl deithio.

Penwythnos diwethaf, roedd ffigurau TrC wedi datgelu bod nifer o bobl yn teithio o Ogledd Cymru ac i Loegr ar gyfer y diwrnod/noson. Mae hefyd yn gwybod bod digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal dros y penwythnos, ac yna Calan Gaeaf a noson tân gwyllt, ac mae eisiau sicrhau bod y cyhoedd yn deall bod cyfyngiadau ar waith.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru;

“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth yn Trafnidiaeth Cymru ac rydyn ni’n cefnogi cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn llwyr i helpu i leihau lledaeniad Covid-19.

“Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau, bydd trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hanfodol yn unig a byddwn yn rhedeg llai o wasanaethau.”

Ychwanegodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd TrC:

“Rydyn ni’n gwybod bod digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal dros y penwythnos a bod Calan Gaeaf a noson tân gwyllt yn dilyn hynny.

“Serch hynny, mae cyfyngiadau teithio ar waith a dim ond os yw hi’n hanfodol i bobl deithio y dylen nhw wneud hynny. Rydyn ni’n dymuno Calan Gaeaf hapus i’n holl gwsmeriaid, ond arhoswch gartref, achubwch fywydau a dim ond teithio os yw hi’n hanfodol eich bod yn gwneud hynny.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.