19.5 C
Llanelli
Thursday, August 27, 2026
Home Newyddion Lle Arolwg newydd yn datgelu maint effaith Covid-19 ar iechyd meddwl yng Nghymru

Arolwg newydd yn datgelu maint effaith Covid-19 ar iechyd meddwl yng Nghymru

0
695
mental health 2019924 960 720
mental health 2019924 960 720

Mae Cymru’n wynebu ton o broblemau iechyd meddwl yn sgil Covid-19, gydag oedolion iau, menywod a phobl o ardaloedd difreintiedig yn dioddef fwyaf.

Dyna’r rhybudd sydd wedi’i gynnwys mewn ymchwil newydd, dan arweiniad yr Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe,   a’r Athro Robert Snowden o Brifysgol Caerdydd sy’n archwilio effaith y pandemig ar lesiant meddyliol poblogaeth Cymru.

Dengys canfyddiadau cychwynnol yr arolwg bod tua hanner y 13,000 o gyfranogwyr wedi dangos diflastod seicolegol arwyddocaol yn glinigol, gyda thua 20 y cant yn dioddef effeithiau difrifol.

Rhoddwyd eu hymatebion yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf, pan welwyd bod y pandemig yn cael effaith ddramatig ar lesiant seicolegol.

Dywedodd yr Athro Gray, o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Gwnaethom archwilio llesiant seicolegol a chyffredinrwydd diflastod meddwl arwyddocaol yn glinigol mewn sampl fawr 11 i 16 wythnos mewn i’r cyfnod clo a chymharu hyn â data ar sail poblogaeth a gasglwyd cyn-Covid- 19. Dangosodd ostyngiad mawr mewn llesiant o lefelau cyn-Covid.”

Dywedodd fod yr effeithiau yng Nghymru – a thrwy oblygiad y rhai yn y DU a thu hwnt – yn fwy nag awgrymwyd gan yr  astudiaethau blaenorol.

“Mae’n debyg bod hyn yn adlewyrchu bod y data cyfredol wedi’i gymryd yn ddyfnach i’r cyfnod clo na gwerthusiadau blaenorol. Mae angen i wasanaethau’r sector cyhoeddus baratoi ar gyfer y cynnydd hwn o broblemau iechyd meddwl gyda phwyslais ar oedolion iau, menywod, ac mewn ardaloedd lle mae mwy o amddifadedd.”

Sefydlwyd y prosiect i olrhain effaith y pandemig ar lesiant pobl, gan archwilio mynychder lefelau sylweddol o ddiflastod seicolegol ac edrych ar y ffactorau a allai liniaru neu waethygu’r diflastod hwnnw.

Recriwtiwyd y 12,989 o gyfranogwyr trwy’r cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddusrwydd a gyda chefnogaeth gan sefydliadau mawr ledled Cymru a rannodd fanylion yr arolwg dwyieithog yn helaeth gyda’r staff. Cafodd gefnogaeth pob un o saith bwrdd iechyd Cymru, y pedwar heddlu yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r Gwasanaeth Tân ac Achub ynghyd â nifer o gyflogwyr mawr a sefydliadau’r trydydd sector.

Mae grŵp ymchwil Llesiant Cymru hefyd yn cynnwys Dr Chris O’Connor, Cyfarwyddwr Adrannol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyda chymorth y gweithiwr marchnata proffesiynol Stuart Williams a myfyrwyr PhD Prifysgol Abertawe James Knowles, Jennifer Pink a Nicola Simkiss.

Mae eu papur, dylanwad y pandemig COVID-19 ar lesiant meddyliol a diflastod seicolegol: effaith ar un wlad, newydd gael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Frontiers in Psychiatry.

Mae’r grŵp hefyd wedi cyflwyno ei ymchwil i Lywodraeth Cymru gyda’r canfyddiadau wedi’u gosod i helpu’r GIG yng Nghymru nid yn unig i ddeall y materion sy’n effeithio ar gymunedau ond hefyd sut y gall lunio gwasanaethau cymorth ar gyfer y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae’r ymchwilwyr yn paratoi i ailagor yr arolwg i gasglu mwy o ddata gan gyfranogwyr sy’n archwilio sut mae pandemig parhaus Covid-19 yn dal i effeithio ar fywyd beunyddiol, pa ffactorau penodol sy’n gweithredu fel straen a dadansoddiad pellach o sut mae oedran yn effeithio ar ymatebion a phrofiadau.

Dywedodd yr Athro Gray: “Bydd y canfyddiadau hyn yn ein helpu i frwydro’n erbyn coronafirws a phopeth sy’n dilyn ohono. Mae gwybodaeth yn bŵer a gwyddoniaeth yw ein dull ar gyfer cyrchu’r wybodaeth hon.

“Mae angen gwyddoniaeth arnom i frwydro yn erbyn canlyniadau corfforol afiechyd a lleihau cyfraddau heintiau ond mae ei angen arnom hefyd i’n helpu i ddeall a pharatoi i ddelio â chanlyniadau Covid-19 ar iechyd meddwl a llesiant pobl Cymru.”

I ddarganfod mwy ac i gymryd rhan mewn astudiaethau yn y dyfodol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.