14.3 C
Llanelli
Sunday, August 16, 2026
Home Art Oriel y Parc yn dathlu bioamrywiaeth gyda #1000 o gardiau post

Oriel y Parc yn dathlu bioamrywiaeth gyda #1000 o gardiau post

0
583
LA1
LA1

Ym mis Tachwedd eleni, bydd arddangosfa newydd yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi sy’n dathlu’r bioamrywiaeth a ddaw pan fydd tir yn cael ei reoli’n foesegol er budd natur.

Mae prosiect #1000 Cerdyn Post gan Liza Adamczewski wedi’i ysbrydoli gan brofiad yr artist ei hun o ddad-ddofi tir ar ei fferm 60 erw yn Sir Benfro.

Mae trydar cerdyn post yn ddyddiol, ac arno greadur neu blanhigyn y mae Liza wedi’i ganfod ar ei fferm ynghyd â gwybodaeth hawdd ei deall, yn rhan annatod o’r darn hwn o waith.

Ar ôl cael MA o Goleg Celf Brenhinol Llundain, mae Liza wedi mwynhau gyrfa fywiog gyda chomisiynau sy’n cwmpasu’r byd masnachol ac artistig, yn cynnwysPenguin Publishing a The Sunday Times yn ogystal ag arddangosfeydd yn Llundain, Suffolk, Bryste a Chaeredin.

Daeth Liza i Sir Benfro oherwydd ei hangerdd dros gadwraeth. Yr angerdd hwn sy’n sail i’w chasgliad newydd o waith.

Dywedodd Rheolwr Oriel y Parc, Claire Bates: “Mae’r darnau hardd hyn yn ein hatgoffa o ba mor dda mae natur yn ymateb pan gaiff ei chefnogi’n briodol.

“Mae bioamrywiaeth cyfoethog tirwedd Sir Benfro wedi ysbrydoli llawer o artistiaid dros y canrifoedd, a bydd yn fraint cynnal arddangosfa sy’n ein hannog i ddathlu’r natur ar ein carreg drws”. 

Bydd #1000 o Gardiau Post yn cael eu harddangos yn Oriel y Parc rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Chwefror 2021.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect #1000 o Gardiau Post ewch i wefan Liza Adamczewski yn www.lizaadamczewski.com.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn a digwyddiadau eraill, ewch i www.orielyparc.com neu ffoniwch 01437 720392.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.