7.8 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Government Ymateb TUC Cymru i Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU

Ymateb TUC Cymru i Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU

0
644
Shavanah Taj profile Wales TUC
Shavanah Taj profile Wales TUC

Wrth sôn am Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU ddoe, dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Roeddem yn gobeithio y byddai’r Canghellor wedi cydnabod difrifoldeb yr her sy’n wynebu gweithwyr yng Nghymru a’r buddsoddiad y bydd ei angen i helpu ein heconomi i wella. Yr oedd yr hyn a gyhoeddwyd ddoe ymhell o fod yn ddigon.

“Mae’r cyhoeddiad ar gyflogau’r sector cyhoeddus yn gic yn y dannedd. Dylem fod yn cydnabod y gwaith a wnaed ar draws y sector cyhoeddus yn ystod y pandemig hwn – a heb fygwth llawer o weithwyr â’r hyn a fyddai’n doriad mewn termau go iawn i’w cyflog.

“Mae’r gweithwyr oedd yn disgwyl cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol wedi cael eu siomi gan benderfyniad Llywodraeth y DU i rwyfo’n ôl ar y cynnydd llawn a addawyd iddynt.  Nid yw cynnydd o 19c yn y flwyddyn nesaf yn ddigon.

“Methodd y Canghellor hefyd â chyhoeddi estyniad i’r codiad Credyd Cynhwysol o £20 – mae hynny’n golygu bod degau o filoedd o aelwydydd yng Nghymru yn wynebu toriad o £1,000 mewn incwm o fis Ebrill nesaf. Rhaid gwrthdroi  hyn. Ac roedd hwn yn gyfle arall a gollwyd i drwsio ein system tâl salwch a sicrhau nad oes rhaid i neb ddewis rhwng eu hiechyd a’u hincwm yn ystod y pandemig hwn.

“Er mwyn ailadeiladu economi sy’n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, mae angen rhaglen gynhwysfawr o fuddsoddiad cyhoeddus arnom. Mae ymchwil TUC Cymru wedi dangos y gallai buddsoddi mewn trafnidiaeth werdd a seilwaith greu mwy na 59,000 o swyddi mewn dwy flynedd. Ond mae diffyg uchelgais Llywodraeth y DU a’i diffyg eglurder parhaus dros ddyfodol buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru yn bygwth tanseilio’r adferiad.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.