9 C
Llanelli
Saturday, March 7, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Mae adferiad cynaliadwy yn “allweddol” i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, yn...

Mae adferiad cynaliadwy yn “allweddol” i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, yn ôl adroddiad gan Helen Mary Jones AoS

0
1473
BQ3A3187
BQ3A3187

Mae adferiad economaidd cynaliadwy yn “allweddol” i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan Weinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Helen Mary Jones AoS

Bydd AoS y Canolbarth a’r Gorllewin Helen Mary Jones yn lansio papur trafod ar ddyfodol economi Cymru yn nes ymlaen y bore yma.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraethau Cymru a’r DG ymrwymo i adferiad cynaliadwy. Ym mhecyn symbylu mwyaf diweddar y DG, mae gwariant gwyrdd penodol yn gyfran sylweddol is o’r gwariant cyffredinol na’r hyn a wnaed gan yr Almaen a’r UE.

Mae’r papur, gan yr ymchwilydd annibynnol Dr Mark Lang yn adolygu sut y mae cymunedau eraill ledled y byd wedi ail-godi eu heconomïau yn wyneb dad-ddiwydiannu, ac y mae’r adroddiad yn rhoi syniadau newydd am sut y gall economi Cymru ymadfer yn dilyn y pandemig Coronafeirws.

Dyma’r hyn a nodi gan yr adroddiad o bwys a gomisiynwyd gan Helen Mary Jones AoS:

  • rôl twristiaeth mewn ymateb i ôl-ddiwydiannu yn Bilbao, Gwlad y Basg, a Gwlad yr Iâ
  • pwysigrwydd datblygu ynni adnewyddol i hybu’r economi yng Ngwlad yr Iâ ac ardal y Ruhr yn yr Almaen
  • defnyddio rhwydweithiau addysgol cryf, addysg alwedigaethol hyblyg; cynyddu lefelau hyfforddiant pan fydd argyfwng yn taro
  • twf canolfannau bwyd lleol, yn Unol Daleithiau America
  • gwerth modelau cydweithredol mewn gofal oedolion a thai cymunedol

Dywedodd Helen Mary Jones AoS, Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Trafnidiaeth a Thaclo Tlodi:

 

“Adeiladwyd economi Cymru ar ein hadnoddau naturiol yn ystod y chwyldro diwydiannol, ond cawsom gyfnod o ddirywiad unwaith i’n dibyniaeth ar lo ddod i ben. Mae Cymru’n dal yn gyfoethog mewn adnoddau naturiol fel dŵr, gwynt a choedwigoedd sydd yn rhoi atebion i’r heriau mae economi Cymru yn wynebu nawr. Wrth i ni ddatblygu’r adnoddau naturiol hyn, rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn dal ein gafael ar y miliynau o bunnoedd yr ydym yn eu hanfon allan o Gymru, a throi’r arian yn ôl i swyddi lleol a chyfleoedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf 

 

“Wrth i Blaid Cymru baratoi rhaglen lywodraethu cyn etholiadau’r Senedd, dyma gyfraniad gwerthfawr i’r ddadl y mae angen i ni ei chael ynghylch economi Cymru a’r ffordd yr ydym yn ail-godi ein heconomi a’n cymdeithas wedi’r pandemig.

 

“Er y gall ein cyfreithiau fod dan fygythiad o du llywodraeth San Steffan, yn ein deddfwriaeth lles, ar waethaf ei holl wrthgyferbyniadau sydd heb eu datrys, mae gan Gymru hadau adferiad cynaliadwy, fydd yn dechrau dadwreiddio’r lefelau uchel o anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd a thlodi.”

Ychwanegodd y Dr Mark Lang, awdur yr adroddiad:

 

“Dwyf i ddim yn meddwl ein bod yn oedi digon yng Nghymru nac mewn mannau eraill i holi, ‘beth yw pwynt ein heconomi?’. Petaem yn gwneud hynny, efallai y gwelwn fod gan y math o lwyddiant economaidd yr ydym yn anelu ato gymeriad gwahanol iawn i’r hyn y tybiwn ar hyn o bryd sy’n gywir. Yn wir, hwyrach y bydd yn rhaid ail-feddwl am holl ddiben polisi economaidd.

 

“I mi, dylai llwyddiant economaidd fod yn gynaliadwy a chydradd. Rhaid i ni ofyn, ‘dros yr ugain mlynedd diwethaf o ddatganoli, a yw polisïau economaidd Cymru yn wir wedi cyflwyno cymdeithas deg a mwy gwyrdd i’r bobl ac i’r blaned’. Mewn geiriau eraill, ‘a yw deddfwriaeth lles Cymru mewn gwirionedd wedi dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn rhedeg ein heconomi, neu’r pethau yr ydym yn dewis buddsoddi ynddynt?'”

 

“Bydd bywyd ar ôl yr argyfwng Covid-19 wedi mynnu ein bod yn ail-feddwl ein blaenoriaethau o’r bôn i’r brig. 

 

“I mi, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi mwy o bwyslais o lawer ar fentrau lleol a chynaliadwy. Mae’r papur trafod hwn yn tynnu sylw at rai syniadau yn unig am sut y gallwn ddechrau ail-ffurfio ein dadleuon ynghylch ein blaenoriaethau.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.