16 C
Llanelli
Tuesday, July 21, 2026
Home Farming Cynllun Rheoli Maetholion yn arwain at enillion sylweddol o ran twf glaswellt...

Cynllun Rheoli Maetholion yn arwain at enillion sylweddol o ran twf glaswellt ar fferm ucheldir

0
445
Farming Connect
Farming Connect

Mae cynnyrch glaswellt ar fferm ucheldir ym Mhowys wedi cynyddu’n sylweddol ers i’r ffermwr gymryd camau i wella iechyd y pridd wedi i Gynllun Rheoli Maetholion (NMP) Cyswllt Ffermio amlygu diffygion.

Mae Alun Davis yn ffermwr pedwaredd genhedlaeth, ac mae’n cadw diadell gaeedig 1,000 o famogiaid Mynydd Penfrith Cymreig ar fferm Gelli Gethin, daliad 400 erw ger Llanfair Caereinion.

Mae tri chwarter y ddiadell yn cael eu croesi gyda hwrdd Wyneblas Caerlŷr i gynhyrchu defaid Miwl Cymreig, ac mae’r ddiadell yn cael ei chadw bron yn gyfan gwbl ar laswellt, naill ai drwy bori neu ar ffurf silwair dros y gaeaf.

Gyda’r fferm yn codi o 800 troedfedd i 1,350 troedfedd uwch lefel y môr, gall amodau fod yn heriol.

Cafodd y fferm gyfan ei hail-hau ar ddechrau’r 1980au, ond roedd cynhyrchiant yn lleihau, ac roedd Alun yn amau y gallai diffyg mewn maetholion yn y pridd fod yn un rheswm dros hynny. 

Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, crëwyd Cynllun Rheoli Maetholion ar gyfer y fferm. Trwy samplu’r pridd, cafwyd cadarnhad bod y lefel pH yn isel, yn ogystal â diffyg ffosffad.

Roedd hynny yn 2017 ac ers hynny mae Alun wedi defnyddio 100 tunnell o galch bob blwyddyn ac yn bwriadu parhau â’r polisi hwn.

“Rydym wedi gweld gwelliannau o ran faint o silwair a gynhyrchir. Rydyn ni’n tyfu llawer mwy o laswellt felly rydyn ni’n cael mwy o’r tir,” meddai.

“Roedd yn bendant yn werth gwneud y Cynllun Rheoli Maetholion. Rydym ni wedi arbed arian trwy beidio â rhoi maetholion lle nad oes eu hangen ac wedi cynyddu cynhyrchiant yn y caeau lle’r ydym ni wedi ychwanegu maetholion.”

Mae’n golygu mwy o borthiant i’r ddiadell sy’n ŵyna ym mis Mawrth. Y tymor hwn sganiodd y ddiadell ar gyfradd o 180%. Bydd ŵyn gwryw yn cael eu gwerthu i Randall Parker Foods – dros y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi cyflawni graddau R yn bennaf.

Mae Alun yn cynhyrchu ei ŵyn benyw cyfnewid ei hun ac yn gwerthu’r ŵyn miwl yn uniongyrchol o’r fferm neu mewn arwerthiannau’r gymdeithas.

Yn ddiweddar, mae wedi ail-brofi’r tir, gan ddefnyddio gwasanaeth sydd wedi’i ariannu’n llawn drwy Cyswllt Ffermio, ac mae’n aros am y canlyniadau.

“Cawsom gyllid i samplu 20 llain sy’n darparu trosolwg da iawn o statws pridd y fferm gyfan,” meddai Alun.

Yn ogystal â sicrhau bod cynllun ar waith ar gyfer ei briddoedd, mae hefyd yn mynd i’r afael ag ymwrthedd i anthelminitigau.

Er bod y cyfrif wyau ysgarthol (FEC) wedi dangos baich isel iawn o ran llyngyr, dywed Alun y bydd y gwasanaeth hwn sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio yn ei helpu i dargedu unrhyw driniaethau angenrheidiol yn fwy effeithiol.

“Mae’n rhoi darlun da i ni o ran pryd i roi triniaethau ac os mae’r triniaethau hynny’n effeithiol.”

Mae’r holl gamau hyn yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau ei fod yn diogelu adnoddau naturiol er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu gwneud bywoliaeth o’r tir.

Mae gan Alun a’i bartner, Lexie, fab tair oed, Harri. “Os bydd Harri yn dewis ffermio, hoffwn feddwl fy mod i wedi gwneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod y tir a’r adnoddau sydd ar gael yn ei alluogi i barhau i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy,” meddai.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.