Mae Cyfrifiad 2021 yn mynd rhagddo ledled Cymru a Lloegr

Mae 21 Mawrth ar gyrraedd ac mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth.
Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yw’r cyfrifiad ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.
Mae llythyrau, sy’n cynnwys codau mynediad unigryw, wedi cael eu postio ac rydym ni wedi dechrau cael ymatebion yn barod.
“Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn helpu i roi’r darlun gorau o anghenion pawb sy’n byw yng Nghymru a Lloegr,” meddai Iain Bell, y Dirprwy Ystadegydd Gwladol yn SYG.
“Mae’n ein helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen ar ein cymdeithas nawr, a’r hyn sy’n debygol o fod ei angen arni yn y dyfodol. Rydym ni eisoes wedi cael ymateb gwych i’r cyfrifiad drwy ein gwaith ymgysylltu ledled y wlad. Nawr, byddwn yn annog pawb a all lenwi’r holiadur i wneud hynny, boed hynny ar eich gliniadur, ar eich ffôn neu ar eich cyfrifiadur.
“Dim ond tua 10 munud fesul unigolyn mae’n ei gymryd ac os na allwch chi fynd ar lein, mae ffurflenni papur ar gael i’r rhai sydd eu hangen. Nawr yw’r amser i chi adael eich ôl ar hanes.”
Caiff Cyfrifiad 2021 ei gynnal ar adeg hollbwysig. Bydd yn hanfodol er mwyn deall yr effaith y mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) a gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi’i chael ar gymunedau gwahanol a’r ffordd y mae pawb yn byw.
Yn ogystal â rhoi darlun newydd o’r boblogaeth a’i hiechyd, bydd y cyfrifiad hefyd yn taflu goleuni ar y newidiadau cymdeithasol ac economaidd i fywydau pobl. Bydd yn darparu gwybodaeth newydd a gaiff ei defnyddio am flynyddoedd i ddod. Bydd y wybodaeth hon yn llywio penderfyniadau am wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ysbytai, ysgolion, prifysgolion a chanolfannau gwaith, er mwyn diwallu anghenion cymdeithas newidiol.
I’r rhai na allant fynd ar lein, bydd holiaduron papur ar gael ar gais hefyd, ynghyd â chymorth ieithyddol. Hefyd, bydd pobl yn gallu cwblhau’r cyfrifiad dros y ffôn gyda help gan staff wedi’u hyfforddi yng nghanolfan gyswllt SYG y gellir ei ffonio am ddim.
Mae SYG yn bwriadu cynnig cymorth wyneb yn wyneb i gwblhau’r cyfrifiad ar lein drwy Ganolfannau Cymorth y Cyfrifiad lle mae’n ddiogel gwneud hynny.
Bydd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a’ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i’r rhai sy’n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.
Bydd swyddogion maes y cyfrifiad yn cynnal ymweliadau dilynol â chartrefi ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth os na fydd y bobl sy’n byw yno wedi llenwi eu holiaduron eto. Ni fyddant byth yn mynd i mewn i dŷ, byddant bob amser yn cadw pellter cymdeithasol, yn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac yn gweithio yn unol â holl ganllawiau’r llywodraeth.
Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw’n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
I gwblhau eich cyfrifiad, a chanfod sut y gallwch chi gael help, ewch i cyfrifiad.gov.uk neu ffoniwch 0800 169 2021.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |


















