13.9 C
Llanelli
Saturday, October 17, 2026
Home hywel dda health board Annog trigolion Hywel Dda i gysylltu â’r bwrdd iechyd er mwyn bwcio...

Annog trigolion Hywel Dda i gysylltu â’r bwrdd iechyd er mwyn bwcio dos cyntaf brechlyn

0
518
covid vaccine closeup
covid vaccine closeup

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gofyn i bobl gymwys sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro gysylltu os nad ydyn nhw wedi cael apwyntiad brechlyn cyntaf COVID.

 Mae rhaglen brechu torfol y bwrdd iechyd ar y trywydd iawn i gynnig dos cyntaf brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9 erbyn dydd Sul 18 Ebrill.

 Os yw un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol i chi ac nad ydych wedi cael eich apwyntiad brechlyn cyntaf, cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu ar e-bost COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk erbyn dydd Gwener 16 Ebrill: 

  • rydych yn 50 oed neu hŷn
  • rydych yn 16 i 64 oed a gennych gyflwr iechyd sy’n bodloi eisoes sy’n eich rhoi mewn mwy o risg o farwolaeth o COVID-19
  • rydych yn gweithio mewn cartref gofal neu yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
  • rydych yn brif ofalwr di-dâl am oedolyn hŷn neu anabl sydd mewn mwy o risg o farwolaeth o COVID-19, neu am blentyn sydd â niwro-anableddau difrifol

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa na’r bwrdd iechyd ar yr adeg hon i ofyn am eich ail apwyntiad brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. 

Mae’r Prif Weithredwr Steve Moore yn annog pobl i gysylltu i sicrhau eu dos brechlyn cyntaf: “Pan wnaethom weinyddu’r brechlyn cyntaf ddechrau mis Rhagfyr roedd hi’n eiliad hynod o arwyddocaol yn y pandemig hwn.

 “Ers hynny rydym wedi gweld ymateb ysgubol gan ein cymunedau ar draws y tair sir sydd wedi dod yng nghanol stormydd, eira, glaw a heulwen i gael eu brechlyn.

“Mae ein diolch i’ch ymdrechion chi, yn ystod yr hyn a fu’n aeaf anodd i’r mwyafrif, bod derbyniadau i’n hysbytai yn lleihau a nifer y marwolaethau o Coronafeirws sy’n cael eu riportio yn parhau i fod yn isel iawn.

 “Tra bod y brechlyn yn rhoi gobaith inni i’r dyfodol, rhaid i ni barhau i weithredu i atal lledaeniad coronafeirws yn y gymuned a pharhau i ddilyn canllawiau COVID-19 ar ymbellhau cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb i amddiffyn y rhai o’nch cwmpas.”

Mae’r bwrdd iechyd yn medru darparu cymorth cludiant i unrhyw un a allai ei chael hi’n anodd mynychu eu hapwyntiad brechu. Os nad oes gennych unrhyw ffordd arall o deithio, soniwch am hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni i drefnu eich apwyntiad a byddwn yn hapus i’ch cynorthwyo.

I gael mwy o wybodaeth am raglen brechu torfol BIP Hywel Dda, trowch at https://hduhb.nhs.wales/healthcare/covid-19-information/covid-19-vaccination-programme/  


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.