12.9 C
Llanelli
Sunday, October 18, 2026
Home hywel dda health board Gwasanaeth nyrsio newydd i gefnogi gofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia

Gwasanaeth nyrsio newydd i gefnogi gofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia

0
944
Case management dementia
Case management dementia

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn partneriaeth â Dementia UK, yn lansio gwasanaeth nyrsio newydd i gefnogi gofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia.

Bydd y gwasanaeth Nyrsys Admiral yn ychwanegiad sylweddol at y gefnogaeth gyfredol sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Mae’r fenter yn unol â Chynllun Gweithredu Dementia Cymru 2018-2022, strategaeth Llywodraeth Cymru yn ceisio cydnabod hawliau pobl â dementia, gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a’u helpu i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau.

Bydd y tîm yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro gyda ffocws ar ddarparu gofal dementia sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n canolbwyntio ar berthynas. Bydd y Nyrsys Admiral yn gweithio ar y cyd mewn dull teulu-ganolog, ar draws llwybrau iechyd a gofal cymdeithasol, i ddarparu cefnogaeth, arweiniad arbenigol ac atebion ymarferol i alluogi teuluoedd / gofalwyr, gan gynnwys yr unigolyn sy’n byw gyda dementia, i wneud y gorau o’u llesiant a gwella’r profiad y rhai y mae dementia yn effeithio arnynt.

Dementia UK yw’r unig elusen yn y DU sy’n ymroddedig i gefnogi teuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt trwy Nyrsys Admiral arbenigol dementia. Pan fydd pethau’n mynd yn heriol neu’n anodd i bobl â dementia a’u teuluoedd, mae Nyrsys Admiral yn gweithio ochr yn ochr â nhw, gan roi’r gefnogaeth un i un dosturiol, arweiniad arbenigol ac atebion ymarferol a all fod yn anodd dod o hyd iddynt mewn man arall. Maent yn achubiaeth, yn helpu teuluoedd i fyw’n fwy cadarnhaol â dementia ac i wynebu heriau yfory gyda mwy o hyder a llai o ofn.

Lansiwyd y gwasanaeth ar 29 Mawrth 2021 ac mae bellach yn derbyn atgyfeiriadau.

Dywedodd Charlotte Duhig, Arweinydd Clinigol Nyrsys Admiral: “Mae’n anrhydedd i mi arwain y gwasanaeth newydd hwn i gefnogi gofalwyr a theuluoedd pobl sy’n byw gyda dementia ar draws y siroedd a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae pandemig COVID-19 wedi bod yn gyfnod anhygoel o heriol i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr ond rwy’n hyderus y bydd y gwasanaeth mawr ei angen hwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau’r rhai y mae dementia yn effeithio arnynt.

“Ar ôl sefydlu Gwasanaeth Nyrsys Admiral, rwy’n ymwybodol o’r budd o weithio fel Nyrs Admiral gan y gall teuluoedd gael y gefnogaeth emosiynol ac ymarferol i’w galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Gall gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol hefyd fanteisio ar ein gwybodaeth fanwl am ddementia. ”

Dywed Dr Hilda Hayo, Prif Swyddog Gweithredol a Phrif Nyrs Admiral yn Dementia UK: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r gwasanaeth Nyrsys Admiral newydd hwn mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’r ffaith bod y gwasanaeth hwn yn ymestyn i ardal wledig fawr yng Ngorllewin Cymru, gyda chefnogaeth dwy Nyrs Admiral sy’n siarad Cymraeg, yn golygu ein bod yn gwella mynediad at gymorth arbenigol dementia i deuluoedd. ”

Er mwyn gallu cael mynediad i’r gwasanaeth hwn mae’r meini prawf atgyfeirio canlynol yn berthnasol:

  • Mae gan y person sy’n cael cymorth / gofal gan y gofalwr ddiagnosis (neu ddiagnosis tebygol) o ddementia.
  • Mae’r unigolyn â dementia a / neu ofalwr yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro (neu wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu yn yr ardaloedd hynny).
  • Mae’r gofalwr yn cytuno i’w atgyfeirio i’r Nyrs Admiral
  • Dylai’r gofalwr fod wedi nodi angen sy’n effeithio ar eu rôl ofalu neu o ganlyniad i’w rôl ofalu *

Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol neu ofal cymdeithasol neu’n 3ydd sector yn gweithio gyda rhywun y gallant elwa o’r gwasanaeth hwn neu os ydych chi’n ofalwr rhywun sy’n byw gyda dementia ac yr hoffech chi gael eich cyfeirio at y gwasanaeth, cysylltwch â gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol a all eich cyfeirio.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r tîm nyrsio yn uniongyrchol:

Arweinydd Clinigol: Charlotte.Duhig@wales.nhs.uk

 

Nyrs Admiral Manylion Cyswllt Ardal
Bethan Bulman Bethan.Bulman@wales.nhs.uk Gogledd Ceredigion
Donna Phillips De Ceredigion
Emma Venables Emma.Venables@wales.nhs.uk Gogledd Sir Benfro
Rosie Bell Rosie.Bell@wales.nhs.uk De Sir Benfro
Siriol Dyer Siriol.Dyer2@wales.nhs.uk Sir Gaerfyrddin (3Ts)
Liz Wright Elizabeth.Wright@wales.nhs.uk Sir Gaerfyrddin (Aman Gwendraeth)
Donna Owens Donna.Owens2@wales.nhs.uk Sir Gaerfyrddin (Llanelli)

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.