13.1 C
Llanelli
Sunday, May 10, 2026
Home hywel dda health board Bwrdd Iechyd yn cyhoeddi bod cyfyngiadau ymweld ag ysbytai yn ddiogel, yn...

Bwrdd Iechyd yn cyhoeddi bod cyfyngiadau ymweld ag ysbytai yn ddiogel, yn gymesur ac yn gyfrifol

0
453
294212016.gallery
294212016.gallery

Mae’r Bwrdd Iechyd yn falch o gyhoeddi y gall teulu, ffrindiau neu’r sawl sydd am ddymuno’n dda fynychu ein hysbytai erbyn hyn i ymweld â chleifion ar sail gyfyngedig gyda chytundeb ymlaen llaw â staff ysbytai.

Gyda niferoedd Covid-19 yn isel iawn ar hyn o bryd ymhlith ein cleifion mewnol mewn ysbytai, mae’r bwrdd iechyd yn raddol leihau cyfyngiadau ymweld cyffredinol ar y rhan fwyaf o’n wardiau.

Mae’r newidiadau’n golygu y gellir cefnogi ymweliad a drefnwyd ymlaen llaw gan un aelod o’r un cartref, ar yr amod bod pwrpas clir i’ch ymweliad a’i fod er budd gorau’r claf.

Gellir trefnu ymweliad yn dilyn trafodaeth rhwng y cleifion a Prif Nyrs y ward a bydd yr ymweliad yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru, ‘Ymweld â Phwrpas’:

  • Diwedd oes – dyddiau olaf bywyd
  • Gofalwr – chi yw’r gofalwr neu’r cynrychiolydd enwebedig
  • Anableddau dysgu (LD) – efallai y bydd claf ag anableddau dysgu eich angen chi fel eu gofalwr / perthynas agosaf i rannu gwybodaeth am eu hanghenion unigol ac efallai na fydd ymweliad rhithiol yn briodol.
  • Arall – er enghraifft lle teimlir y gallai ymweliad gennych helpu’r claf gydag adsefydlu, deall gofal / cyflwr, helpu gyda phryderon deietegol. Gall Prif Nyrs y ward gytuno i ymweld y tu allan i’r canllaw hwn mewn rhai amgylchiadau.

Gofynnir i ymwelwyr nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf hyn ddefnyddio opsiwn ymweld rhithiol, megis defnyddio tabled neu ffôn symudol. Bydd Swyddogion Cyswllt Teulu ar gael ar wardiau i gefnogi mynediad.

Byddem yn gofyn yn garedig i bob ymwelydd gadw at y canllawiau canlynol:

  • RHAID i bob claf sy’n ymweld wneud apwyntiad ymlaen llaw a ymlaen llaw gyda’r ward neu’r gweithiwr iechyd proffesiynol perthnasol.
  • Bydd aelod o staff yn cysylltu â’r ymwelydd a ddyrannwyd ac yn cytuno ar slot amser i’r ymwelydd fynychu’r ward. Bydd un ymwelydd dyddiol yn ystod y slot amser penodedig i sicrhau y cedwir at reolau pellter cymdeithasol ac i gynnal diogelwch cleifion a staff.
  • Caniateir i’r ymwelydd aros gyda’r claf am gyfnod o 45 munud, oni bai bod Prif Nyrs wedi nodi amgylchiadau penodol i gynyddu amser yr ymweliad.
  • Oherwydd amrywiaeth y wardiau, gall slotiau amser amrywio.
  • Rhaid i ymwelwyr wisgo PPE priodol (gorchuddion wyneb llawfeddygol), oni bai bod yr ymwelydd yn blentyn o dan 11 oed
  • Rhaid i’r ymwelydd a ddyrannwyd aros fel yr unig ymwelydd yn ystod y cyfnod derbyn.
  • Pe bai angen trefniadau ymweld amgen neu ymwelydd arall wedi’i ddyrannu, rhaid trafod hyn gyda Prif Nyrs y ward
  • Nid oes cyfleusterau ffreutur ar gyfer perthnasau, a gofynnir i berthnasau aros o fewn ardal gwely’r claf trwy gydol yr arhosiad gan gadw pellter o 2 fetr oddi wrth gleifion, staff ac ymwelwyr eraill bob amser.
  • Nid yw cynorthwywyr cymorth hanfodol (fel dehonglwyr neu ofalwyr hanfodol) yn cael eu cyfri fel ymwelwyr. Trafodwch â’ch gweithiwr iechyd proffesiynol.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Ar ran y bwrdd iechyd hoffwn yn gyntaf estyn ein diolch i’n cymunedau, ein cleifion a’u teuluoedd am eich dealltwriaeth a’ch ymlyniad i reolau ymweld ag ysbytai yr ydym wedi gorfod eu gosod trwy gydol y pandemig hwn. Mae eich diwydrwydd a’ch ymwybyddiaeth o’r angen i gadw anwyliaid yn ddiogel yn yr ysbyty wedi bod yn allweddol yn ein hymdrechion i ymladd y feirws.

“Rwy’n falch o gyhoeddi, diolch i’r ymdrechion hyn, ar niferoedd isel iawn o Covid-19 yn ein hysbytai, ein bod bellach mewn sefyllfa lle gallwn ddechrau llacio rhai o’r cyfyngiadau hyn yn raddol lle mae amgylchiadau a chanllawiau cenedlaethol yn caniatáu.

“Rydym yn gwybod bod ymwelwyr yn hanfodol i lesiant ein cleifion, a lle bynnag y gallwn, byddwn yn eich cefnogi i fod gyda’ch anwylyd. Rydym wedi ymrwymo i osgoi lledaeniad y feirws yn ein hysbytai a chadw ein cleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff mor ddiogel â phosibl.

“Mae hyn yn golygu bod angen i ni am y tro sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ofalus, ac rwyf am bwysleisio nad yw hwn yn ddychweliad llawn i normalrwydd. Rydym yn deall y gallai rhai ymwelwyr deimlo’n siomedig os na allwch fynychu yn bersonol, ond rwyf am eich sicrhau bod y mesurau yr ydym yn eu rhoi ar waith yn ddiogel, yn gymesur ac yn gyfrifol ac edrychwn ymlaen at leddfu cyfyngiadau pellach yn raddol wrth i amgylchiadau ganiatáu.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here