19.5 C
Llanelli
Thursday, August 27, 2026
Home Newyddion Lle Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – Llai na 30...

Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – Llai na 30 diwrnod i fynd

0
421
dcebf5a13e844a1bb6da6bb0e8cc3249
dcebf5a13e844a1bb6da6bb0e8cc3249

Mae llai na 30 diwrnod ar ôl i ddinasyddion yr UE wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn y DU ac rydym yn annog y rheini sy’n byw yng Nghymru i fanteisio ar y cymorth am ddim sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i lenwi’u cais.

Mae’r Cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr UE, dinasyddion o Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw yn yr UE a dinasyddion o’r Swistir, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd sy’n gymwys, ddiogelu eu statws preswylio gan fod y DU bellach wedi ymadael â’r UE.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r Cynllun hwn yw dydd Mercher, 30 Mehefin 2021.

Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig ystod o gymorth am ddim i helpu dinasyddion yr UE i fyw a gweithio yng Nghymru. Mae hefyd yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor am ddim i helpu i ddiogelu statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog.

Mae’r pecyn cymorth parhaus hwn yn cynnwys:

  • Cymorth digidol ar gyfer ceisiadau am statws preswylydd sefydlog neu help ag ymholiadau cyffredinol ynghylch pwy sy’n gymwys gan Gyngor ar Bopeth
  • Cyngor ar faterion llesiant cymdeithasol a hawliau yn y gweithle
  • Cyngor arbenigol am ddim ar fewnfudo i bobl ag anghenion cymhleth, gan y cwmni cyfreithiol Newfields Law, sy’n arbenigo mewn cyfraith fewnfudo
  • Gwasanaethau allgymorth ar gyfer grwpiau anodd eu cyrraedd ac agored i niwed.

Yn ddiweddar, mae’r ddarpariaeth gyllid wedi’i hymestyn i sicrhau bod modd i Newfields Law, Settled a Chyngor ar Bopeth barhau i roi cyngor i ddinasyddion yr UE yng Nghymru, ac yn benodol i grwpiau agored i niwed y gall y broses o ymgeisio am statws preswylwyr sefydlog fod yn heriol iddynt.

Bydd gan holl ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yr hawl i fyw a gweithio yn y DU, ynghyd â’r hawl i wasanaethau fel gofal iechyd, tai, addysg a’r hawl i bleidleisio hyd nes y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.

Mae’n rhaid i ddinasyddion yr UE gyflwyno cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE cyn 30 Mehefin er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n breswylwyr cyfreithiol yn y DU a’u bod yn parhau i gael mynediad at eu holl hawliau.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

“Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru’n gwneud cyfraniad enfawr i’n heconomi a’n cymdeithas – mae croeso yma i chi.

“Gan fod llai na 30 diwrnod ar ôl i wneud cais am Statws Preswylydd Sefydlog, rwy’n annog yn gryf unrhyw un sydd heb ymgeisio eto i wneud hynny. Mae llawer o gymorth am ddim ar gael i’ch helpu, ni waeth beth yw eich amgylchiadau na lle yng Nghymru rydych chi’n byw.

“Rydyn ni’n parhau’n bryderus am y nifer o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n hŷn neu’n agored i niwed sydd heb ymgeisio eto. Os oes gennych ffrind neu aelod o’r teulu sydd angen ymgeisio, helpwch nhw i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael iddynt.”

Mae’r sefydliad Settled yn un o’r nifer sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cynnig cymorth am ddim i ddinasyddion yr UE wrth gyflwyno’u ceisiadau.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Settled, Kate Smart:

“Bob wythnos, mae miloedd o bobl yn cysylltu â Settled i gael cymorth â’u ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog. Mae hyn yn cynnwys nifer sydd wedi byw yn y Deyrnas Unedig ers degawdau, ac sydd ond newydd sylwi bod yn rhaid iddyn nhw ymgeisio o dan y cynllun hefyd.

“Mae gan nifer mawr o’r preswylwyr hirdymor hyn yn y Deyrnas Unedig gerdyn preswylydd parhaol ac maen nhw’n poeni’n arw.

“Mae ein neges yn syml; peidiwch â chymryd yn ganiataol nad yw’r cynllun hwn yn berthnasol i chi – gwiriwch fod eich statws yn ddilys. Mae Settled yma i helpu pawb sydd wedi cael anawsterau â’u cais i’r Cynllun hwn.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau ‘Paratoi Cymru’ ar wefan Llywodraeth Cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.