6.5 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home hywel dda health board Annog pobl â symptomau ehangach i archebu prawf COVID-19

Annog pobl â symptomau ehangach i archebu prawf COVID-19

0
361
coronavirus news alert
coronavirus news alert

Anogir pobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gael prawf COVID-19 am ddim os oes ganddynt ystod ehangach o symptomau, i helpu i nodi achosion COVID-19 cudd yn ein cymunedau a lleihau nifer y trosglwyddiadau.

Yn flaenorol, dim ond y rhai â thymheredd uchel, peswch parhaus newydd, neu golli/newid blas ac arogl, a gynghorwyd i geisio prawf. Bellach, mae pobl ag unrhyw un o’r symptomau ehangach canlynol sy’n barhaus a/neu’n anarferol iddynt, hefyd yn cael eu hannog yn gryf i gael prawf PCR:

  • Symptomau annwyd yr haf – gan gynnwys dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen
  • Symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys myalgia (cyhyrau poenus); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn llawn; tisian yn barhaus; dolur gwddf a/neu grygni, prinder anadl neu wichian
  • Teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19
  • Unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol yn flaenorol

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau uchod, arhoswch adref ac archebwch brawf PCR trwy borth y DU https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffoniwch 119.

Wrth archebu’ch prawf PCR, gofynnir i chi hefyd am eich symptomau: os oes gennych symptomau ehangach annwyd haf neu debyg i ffliw fel y disgrifir uchod, yn hytrach na’r tri symptom clasurol, dewiswch ‘Dim un o’r symptomau hyn’ ac yna dewiswch un o’r opsiynau canlynol i’ch galluogi i gwblhau’r archeb:

  • Mae fy nghyngor lleol neu dîm diogelu iechyd wedi gofyn imi gael prawf, er nad oes gen i symptomau neu;
  • Rydych chi’n rhan o brosiect peilot y llywodraeth neu;
  • Mae meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall wedi gofyn imi gael prawf.

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae nodi heintiau, a allai fel arall fynd heb eu canfod, yn arbennig o bwysig wrth i amrywiadau newydd o’r firws ddod i’r amlwg. Po fwyaf o brofion a gynhelir, yr hawsaf fydd hi i adnabod clystyrau cynnar o achosion a mwtaniadau posib o’r firws.

“Rydym yn gwybod am y grŵp ehangach o symptomau mewn perthynas â COVID-19 ond ni sonnir amdanynt mor aml â’r tri symptom clasurol. Ein nod yw dod o hyd i gynifer o achosion COVID-19 â phosib fel y gallwn atal trosglwyddiad y firws i eraill. Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddod â’r pandemig i ben mor gyflym â phosib a helpu i godi’r cyfyngiadau.”

Os ydych wedi cael prawf COVID-19, rhaid i chi barhau i hunan-ynysu nes i chi gael gwybod eich canlyniad, a fydd fel arfer o fewn 24 awr i’r prawf. Os yw’ch canlyniad yn bositif, rhaid i chi hunan-ynysu am 10 diwrnod o’r dyddiad y dechreuodd eich symptomau. Bydd y Tîm Olrhain lleol yn cysylltu â chi hefyd. Os yw’ch canlyniad yn negyddol, gallwch chi ddod â’ch hunan-ynysu i ben, pan fyddwch chi’n teimlo’n ddigon da i wneud hynny.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.