Elusennau Iechyd Hywel Dda ar ward Dyfi, Bronglais

0
425
Sian Davies Staff Nurse Dyfi Ward Bronglais with a recliner chair
Sian Davies Staff Nurse Dyfi Ward Bronglais with a recliner chair

O ganlyniad i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu chwe chadair lledorwedd ar gyfer ward Dyfi Ysbyty Bronglais i alluogi cleifion i eistedd a chysgu allan o’r gwely mewn cysur.

Y cadeiriau yw’r model a argymhellir ar gyfer cleifion cardiaidd sy’n defnyddio cadeiriau am gyfnodau hir. Heb y cadeiriau hyn, byddai’n rhaid i rai cleifion aros yn eu gwelyau, nad yw bob amser yn addas.

Dywedodd Prif Nyrs Ward Dyfi, Debbie Lovell: ā€œAr ochr gardiaidd Ward Dyfi mae yna gleifion nad ydyn nhw’n gallu cysgu mewn gwelyau oherwydd eu cyflyrau ac mae’r cadeiriau lledorwedd newydd hyn o fudd gwirioneddol. Mae’r cadeiriau hyn yn galluogi cleifion i gadw eu coesau yn uchel, sy’n helpu gyda chylchrediad.

ā€œRydym yn ddiolchgar iawn am y rhoddion sydd wedi galluogi i’r chwe chadair hyn gael eu prynu ar gyfer yr ystafelloedd.ā€

Yn y llun mae Sian Davies, Nyrs Staff ar ward Dyfi, gydag un o’r cadeiriau lledorwedd.

Os hoffech chi helpu eich elusen GIG i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, mae mwy o wybodaeth yn www.elusennauiechydhyweldda.org.uk.

Gallwch gyfrannu neu godi arian yn www.justgiving.com/hywelddahealthcharities.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here