8.3 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home hywel dda health board Brysbennu a Thrin yn dychwelyd i’r stryd fawr

Brysbennu a Thrin yn dychwelyd i’r stryd fawr

0
450
AE8C4BCB EF49 4499 8F10047E2BF5A766 carouselimage
AE8C4BCB EF49 4499 8F10047E2BF5A766 carouselimage

Mae gwasanaeth sy’n rhoi mynediad i breswylwyr ac ymwelwyr i gael triniaeth ar gyfer ystod o gyflyrau heb apwyntiad wedi ail-lansio mewn fferyllfeydd cymunedol.

Mae’r gwasanaeth Brysbennu a Thrin bellach ar gael mewn fferyllfeydd dethol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Gall Brysbennu a Thrin eich helpu os oes gennych anaf lefel isel yn hytrach na gorfod ymweld â meddyg neu adran damweiniau ac achosion brys. Darperir y gwasanaeth gan fferyllydd neu aelod o’r tîm fferyllol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.

Y mathau o anafiadau y gellir eu trin o dan y cynllun yw:

• Mân sgrafelliadau, toriadau arwynebol a chlwyfau

• Pigiadau a brathiadau (fel gwenyn neu slefrod môr)

• Straen

• Cwynion llygaid fel tywod yn y llygad

• Tynnu eitemau o’r croen fel splinter neu gragen

• Mân losgiadau gan gynnwys llosg haul

Pan fydd mân ddamweiniau ac anafiadau yn digwydd, mae Brysbennu a Thrin ar gael heb apwyntiad

Pan gyrhaeddwch y fferyllfa:

• Gofynnir i’ch cytundeb (caniatâd) i gael ei archwilio

• Asesu eich cyflwr

• Cael eich trin neu eich cynghori ynghylch ble y dylech fynd am eich triniaeth

Bydd eich meddyg teulu yn cael gwybod am unrhyw driniaeth a roddir a gofynnir i chi hefyd roi gwybod i ni am eich barn am y gwasanaeth.

Byddwch yn ymwybodol bod Brysbennu a Thrin yn cael ei ddarparu am ddim trwy’r GIG ond bydd angen i chi dalu am unrhyw ôl-ofal y bydd ei angen arnoch chi, fel lleddfu poen dros y cownter.

Cofiwch wisgo gorchudd wyneb wrth ymweld â fferyllfa a pheidiwch ag ymweld os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref unrhyw symptomau COVID-19.

Am fwy o wybodaeth gwyliwch ein hanimeiddiad yma: https://www.youtube.com/watch?v=XLu8JXrx0wQ ac i ddarganfod pa fferyllfeydd sy’n cymryd rhan yn y cynllun, ewch i:  https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.