19 C
Llanelli
Tuesday, August 25, 2026
Home Newyddion Lle Galw am gyllid yn yr hirdymor i sicrhau bod tomennydd glo Cymru...

Galw am gyllid yn yr hirdymor i sicrhau bod tomennydd glo Cymru yn ddiogel

0
410
fb640256d12e4ac68fdd1e7d7e9704e7
fb640256d12e4ac68fdd1e7d7e9704e7

Welsh Government News

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, wedi dweud y dylai Llywodraeth y DU ddefnyddio’i Hadolygiad o Wariant yr hydref hwn i rannu cyfrifoldeb ac i ddyrannu cyllid hirdymor er mwyn sicrhau bod tomennydd glo Cymru yn ddiogel.
Wrth i’n hinsawdd newid, mae angen sylw a chyllid hirdymor ar domennydd gwastraff glo Cymru er mwyn atal y risg o dirlithriadau yn y dyfodol.

Ar sail gwybodaeth oddi wrth yr Awdurdod Glo, mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif bod mwy na 40 y cant o holl domennydd glo’r DU yng Nghymru a bod tua un o bob saith ohonynt yn cael eu hystyried yn rhai risg uchel.

Finance and Local Government Minister Rebecca Evans

Bydd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn galw ar Ganghellor y Trysorlys, Rishi Sunak, i rannu cyfrifoldeb ac i ddyrannu cyllid sylweddol er mwyn mynd i’r afael â’r problemau a etifeddwyd yn sgil cloddio am lo yng Nghymru yn ystod y cyfnod cyn datganoli.

Amcangyfrifir y bydd angen o leiaf rhwng £500 miliwn a £600 miliwn dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’r problemau a etifeddwyd yn sgil cloddio am lo yn effeithio’n anghymesur ar Gymru ac mae effeithiau’r hinsawdd yn golygu bod tomennydd glo yn peri mwy o risg i’n cymunedau. Gan fod y mater hwn yn un sy’n dyddio o’r cyfnod cyn datganoli, mae angen i Lywodraeth y DU rannu cyfrifoldeb ac atal tirlithriad arall.

“Wrth i law ddwysáu a’r tymheredd godi, mae’r risgiau i fywydau ac i fywoliaeth pobl yn cynyddu mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld.

“Mae sicrhau bod y tomennydd yn ddiogel cyn iddyn nhw lithro yn fwy costeffeithiol o lawer nag aros i un yn unig o’r tomennydd risg uchel lithro. Mae cyfrifoldeb cyfreithiol a moesol ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn ac i ariannu’r costau hirdymor hyn.

“Mae cyfle inni gydweithio yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod i fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n ein hwynebu o ran yr hinsawdd ac o ran byd natur, ac mae’r Adolygiad o Wariant eleni yn gyfle i ganfod y tir cyffredin hwnnw ac i adael gwaddol cadarnhaol, tecach a pharhaol i gyn-ardaloedd glofaol yng Nghymru.”

Bydd yr Adolygiad o Wariant yn pennu faint o arian fydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf hyd at 2024-25.

Bydd y Gweinidog Cyllid hefyd yn gofyn i Lywodraeth y DU achub ar y cyfle i fuddsoddi yng Nghymru drwy fynd i’r afael â’r tanariannu hanesyddol mewn seilwaith rheilffyrdd ac ym maes ymchwil a datblygu. Bydd yn gofyn hefyd iddi ailystyried ei phenderfyniad i atal £375 miliwn o gyllid strwythurol blynyddol yr UE sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gefnogi rhaglenni, gan gynnwys rhai ym maes cyflogadwyedd, sgiliau a phrentisiaethau. Mae am weld Llywodraeth y DU yn rhoi yn union yr un faint o gyllid i ffermwyr ag a roddwyd gynt gan yr UE ac mae am iddi ariannu’r gwaith sy’n parhau i fynd rhagddo mewn porthladdoedd ar y ffin ar ôl inni adael yr UE.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.