14 C
Llanelli
Monday, October 26, 2026
Home Entertainment Only Boys Aloud yn ehangu i Orllewin Cymru!

Only Boys Aloud yn ehangu i Orllewin Cymru!

0
510
OBA West Gorllewin
OBA West Gorllewin

Mae The Aloud Charity yn falch o gyhoeddi y bydd corau Only Boys Aloud newydd yn dechrau ymarfer yng Ngorllewin Cymru.

Diolch i gefnogaeth prosiect o bartneriaethau gyda’r Bluestone Foundation a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae The Aloud Charity yn medru cynnig ymarferion côr wythnosol i fechgyn a dynion ifanc sy’n byw yn siroedd Gorllewin Cymru. Does dim clyweliad a dim ffi i ymuno, felly mae croeso i unrhyw fachgen oed uwchradd o bob cefndir a gallu, boed yn gantorion profiadol neu erioed wedi camu i’r byd corawl.

Sefydlwyd Only Boys Aloud yn 2010 gyda’r gobaith o allu creu gwahaniaeth i fywydau bechgyn ifanc yn eu harddegau ar draws Cymru; i fagu hyder a hunan-werth, a’u hysbrydoli i ehangu gorwelion a’u dyheadau. Bellach yn un ar ddeg mlwydd oed, gyda mwy na 200 o aelodau’n mynychu corau OBA ar draws De a Gogledd Cymru, bydd The Aloud Charity yn sefydlu corau newydd yn Sir Benfro a Cheredigion, yn ogystal â datblygu’r ddarpariaeth gyfredol yn Sir Gâr.

Meddai Elin Llwyd, Rheolwr Prosiect OBA Gorllewin Cymru: “Galla’i ddim aros i sefydlu’r corau newydd yma yng Ngorllewin Cymru. Mae’n brosiect cyffrous iawn ac yn gyfle gwych i ddynion ifanc Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gâr. Bydden i’n annog unrhywun sydd â diddordeb i gofrestru nawr drwy e-bostio obagorllewin@thealoudcharity.com Bydd yr ymarferion yn dechrau yr wythnos gyntaf ar ôl Hanner Tymor (Tachwedd 1af) felly peidiwch oedi i gysylltu! Dwi ’di bod yn ddigon ffodus i fod yn dyst i’r effaith bositif gall bod yn aelod o gôr gael ar fywydau pobl ifanc. Ac ar amser pan fo lles ac iechyd meddwl yn flaenllaw iawn yn ein meddyliau, gall canu a cherddoriaeth chwarae rôl hanfodol
yn annog y datblygiad o unigolion mynegiannol, agored a chreadigol ymysg y genhedlaeth yma o ddynion ifanc.”

Dywedodd Pamela McNamara, Sylfaenydd y Bluestone Foundation: “The Bluestone Foundation was established to ‘help people to help themselves’ through environmental, economic, and social projects in Pembrokeshire; and we’re pleased to be supporting the Aloud Charity in its inspirational work in our local community bringing young boys together as a team to enjoy the health & wellbeing benefits of music through singing.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.