9.7 C
Llanelli
Sunday, October 18, 2026
Home Charity Diolch i roddion gan gymunedau lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi...

Diolch i roddion gan gymunedau lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu sganiwr pledren newydd ar gyfer Ward Tywi yn Ysbyty Glangwili.

0
491
B5D9DA0C C2DD 4F08 8915A288276BF030 carouselimage
B5D9DA0C C2DD 4F08 8915A288276BF030 carouselimage

Mae’r sganiwr Verathon, ynghyd â throl symudol ac argraffydd, wedi’i ddarparu ar gost o £7,000.

Dywedodd Uwch Brif Nyrs y Ward, Emma O’Rourke, y bydd gallu cael eu sganiwr eu hunain yn sicrhau diagnosis a thriniaeth brydlon ar ward feddygol brysur.

Meddai Emma: “Mae’r sganwyr hyn yn anfewnwthiol, yn ddi-boen ac yn syml i’w defnyddio ac yn helpu i ganfod problemau bledren yn gynnar, gan leihau’r risg o haint. Mae hyn yn golygu profiad claf mwy cyfforddus a gwell.

“Bydd y sganiwr newydd hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion. Rydyn ni wrth ein boddau ei dderbyn i’n helpu gyda thriniaethau amserol ac i gefnogi diagnosis cychwynnol i glinigwyr. “

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn. ”

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.