12.9 C
Llanelli
Monday, October 19, 2026
Home hywel dda health board Enillwyd cyllid i wella gwasanaethau canser

Enillwyd cyllid i wella gwasanaethau canser

0
404
funding won to improve cancer services
funding won to improve cancer services

Heddiw mae Menter Canser Moondance wedi dyfarnu ychydig dros £400,000 i saith prosiect arloesol ledled gogledd a gorllewin Cymru i wella gwasanaethau canser.

Crëwyd Gwobrau Amser Arloesi Menter Canser Moondance yn Haf 2021 i annog a chefnogi staff ar draws gwasanaethau iechyd a gofal Cymru i fabwysiadu arloesiadau ymarferol a chlinigol i wella canlyniadau canser gydag effaith uniongyrchol – p’un ai mewn gwasanaethau canser, diagnosteg, triniaethau, technolegau galluogi neu’r gweithle. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod y GIG yn anelu at wella o effaith mesurau iechyd cyhoeddus a gymerwyd yn ystod y pandemig parhaus Covid-19.

Mae gwobrau 2021 wedi bod yn agored i staff ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac wedi cynnig hyd at £100,000 ar gyfer gweithredu arloesed dros 6-12 mis.

Dyfarnwyd ychydig dros £200,000 i dimau ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i:

Cyflwyno llwybr newydd pwrpasol ar gyfer canserau sy’n arbennig o anodd eu diagnosio (malaenau o darddiad anhysbys), gan gysylltu â’r ganolfan diagnosis cyflym a gynlluniwyd
Cyflwyno rhestr endosgopi newydd a fydd yn galluogi diagnosis cyflymach (ac felly symud ymlaen yn gyflymach i driniaeth) ar gyfer cleifion sydd angen rhywfaint o dawelyddiad i oddef gweithdrefnau endosgopi.
Annog mwy o bobl i ymgysylltu â sgrinio’r coluddyn gartref
Treialu defnyddio datrysiad AI i gefnogi timau patholeg wrth wneud diagnosis o ganser y fron, gan alluogi diagnosis cyflymach mewn pryd.
Mae timau ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd wedi derbyn ychydig dros £200,000 ar gyfer amrywiaeth o brosiectau arloesol:

Datblygu teclyn deallusrwydd artiffisial gyda’r potensial i leihau camddiagnosis canserau’r brostad
Treialu ap delweddu 3D a ddatblygwyd yn wreiddiol yn sector llawfeddygaeth gosmetig gyda chleifion angen ailadeiladu’r fron – gan leihau’r angen am lawffeddygaeth lluosog
Treialu llwybr diagnosis canser yr ysgyfaint newydd y gall gleifion ei gyrchu’n uniongyrchol, gan dynnu pwysau oddi ar feddygfeydd.
Disgwylir i bob prosiect dechrau o fewn 3 mis a chael effaith ymarferol go iawn i gleifion yn 2022.

Gwnaeth Megan Mathias, Prif Swyddog Gweithredol Menter Canser Moondance , y cyhoeddiad heddiw: “Cawsom rai ceisiadau cyffrous o ansawdd uchel ac rydym yn falch iawn o allu ymrwymo dros £400,000 mewn cyllid i gefnogi saith syniad arloesol i wella gwasanaethau canser yn 2022.

“Ein gobaith yw bod y datblygiadau arloesol hyn yn profi’n well i gleifion, ac yn fyw effeithiol ac effeithlon hefyd – gan alluogi Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda i’w mabwysiadu i wasanaethau craidd yn 2023.

“Llongyfarchiadau enfawr i’r enillwyr. Wrth gwrs, mae’r gwaith caled yn dechrau nawr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gadw mewn cysylltiad â nhw dros y flwyddyn i ddod.”

Wrth son am y wobr, dywedodd Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi partneru â Menter Canser Moondance ar y Gwobrau hyn. Rydym yn hyderus y bydd y prosiectau hyn yn ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion canser ledled gorllewin a gogledd Cymru.”

Dywedodd Jo Whitehead, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Fel llawer o bobl, rwyf wedi cael profiad o ganser yn fy nheulu fy hun, ac felly rwy’n gwybod pa mor bwysig yw ein bod ymdrechu’n barhaus i wella gwasanaethau a chanlyniadau canser, yn enwedig wrth i ni fynd i’r afael â galw ychwanegol yn dilyn pandemig Covid-19. Hoffwn ddiolch i’r holl staff a gymerodd ran yn y gwobrau hyn, ac wrth gwrs llongyfarchiadau enfawr i’r rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus. Edrychaf ymlaen at eu cefnogi i lwyddo.”



[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.