9.3 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Awards Tair Nyrs Hywel Dda yn dod i’r brig yng Ngwobrau Nyrs y...

Tair Nyrs Hywel Dda yn dod i’r brig yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

0
433
Anwen Jones 3
Anwen Jones 3

Roedd yn noson lwyddiannus iawn i dîm nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda thri enillydd a phump yn ail yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru 2021 eleni.

Cynhaliwyd y gwobrau blynyddol mewn seremoni rithwir ddydd Mercher 10 Tachwedd 2021 i ddathlu cyflawniadau rhagorol yr holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol, gan gynnwys eu dylanwad cadarnhaol ar arfer nyrsio gorau a gwella’r gofal a roddir i unigolion a chymunedau yng Nghymru.

Llongyfarchiadau mawr i Christine Brookes, Myfyriwr Nyrsio / Gweithiwr Cymorth Nyrsio Ysgol, enillydd y wobr Myfyriwr Nyrsio; Anwen Mai Jones, Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol yng Ngheredigion am ennill y wobr Nyrsio Cymunedol; a Sue Rees BEM, Uwch Ymarferydd Nyrsio (Atal Heintiau Cymunedol) am ennill y wobr Gwella Iechyd Unigolion a Phoblogaeth.

Yn ail ar y noson oedd:

Suzanne Davies
  • Suzanne Davies, Nyrs Glinigol Rhiwmatoleg yn Ysbyty Llwynhelyg, Sir Benfro yn y categori Arloesi a Digido mewn Nyrsio
Betsan Ifans
  • Betsan Ifans, Nyrs Feithrin / Gweithiwr Cymorth Ymwelwyr Iechyd yn Abergwaun, Sir Benfro yn y categori Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Sarah Kingdom-Mills
  • Sarah Kingdom-Mills, Hwylusydd Addysg Cartrefi Gofal yn y categori Cefnogi Addysg a Dysgu ar Waith
Bethan Lewis
  • Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus yn y categori Gwella Iechyd Unigolion a Phoblogaeth
Rebecca McDonald
  • Rebecca McDonald, Nyrs Gofal Lliniarol Paediatreg / Nyrs Plant Cymunedol yng nghategori Nyrsio Paediatreg Suzanne Goodall

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore: “Rwy’n falch iawn bod Christine, Anwen, Sue, Suzanne, Betsan, Sarah, Bethan a Rebecca wedi cael eu cydnabod yn y seremoni wobrwyo genedlaethol fawreddog hon.

“Rwy’n hynod falch ohonynt, a’n holl staff nyrsio, am y gofal o ansawdd uchel y maent yn parhau i’w ddarparu bob dydd i’n cleifion. Mae’n arbennig o ysbrydoledig i’r holl lwyddiannau hyn gael eu hennill trwy waith caled ac ymrwymiad llwyr wrth wynebu heriau pandemig byd-eang.”

Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am waith gwych y rhai ddaeth i’r brig:

Christine Brookes

Gwobr Myfyriwr Nyrsio – Enillydd: Christine Brookes, Myfyriwr Nyrsio / Gweithiwr Cymorth Nyrsio Ysgol

Wrth astudio ar raglen 4 blynedd y bwrdd iechyd ‘Tyfu Eich Hun’, mae Christine wedi cefnogi gweithrediad Canolfan Reoli COVID-19 yn y swyddogaeth brofi a’r rhaglen frechu.

Datblygodd Christine becynnau adnoddau, sydd ar gael yn Saesneg a Chymraeg, i helpu cyd-fyfyrwyr a myfyrwyr sy’n cychwyn yn y Bwrdd Iechyd i lywio eu gwaith.

Cododd agwedd gadarnhaol Christine galon cydweithwyr mewn cyfnod o bwysau mawr, tra bod ei hyblygrwydd yn dangos ymrwymiad eithriadol i’w phroffesiwn yn y dyfodol.

Meddai Christine: “Rwy’n teimlo’n anrhydeddus fy mod wedi ennill y wobr hon. Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol, fodd bynnag, rwyf wedi caru pob lleoliad. Rwyf wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr a dysgu gan fentoriaid, cydweithwyr a chyd-fyfyrwyr anhygoel trwy gydol fy hyfforddiant.

“Rwy’n falch o gynrychioli Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe a byddaf yn parhau i gofleidio pob cyfle dysgu, i barhau i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. Roedd yn syndod hyfryd cael fy enwebu, ac rwy’n ddiolchgar iawn.”

Anwen Mai Jones

Gwobr Nyrsio Cymunedol – Enillydd: Anwen Mai Jones, Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol, Ceredigion

Mae Anwen wedi gwasanaethu cymuned diabetes Ceredigion ers blynyddoedd lawer fel nyrs arbenigol diabetes cymunedol (CDSN), gan feithrin dull unigryw o ofal cymunedol. Mae ei dull arloesol yn cynnwys gweithredu gofal ar sail tystiolaeth i gleifion ac annog cydweithwyr yn gyson i ail-werthuso’r gofal a gynigir.

Hyrwyddodd gydweithrediad agos â meddygfeydd teulu yng Ngheredigion, gan ddod â gofal yn agosach at gartrefi cleifion a galluogi meddygon teulu i gyrraedd eu targedau gwasanaeth diabetes a dangos gwelliant ansawdd.

Mae dull Anwen wedi arwain at well boddhad cleifion, costau rhagnodi sefydlog a mwy o hyder wrth reoli diabetes. Mae’r newidiadau hyn i gyd wedi’u gyrru gan angerdd Anwen i hyrwyddo gofal unigol, a rhannu gwybodaeth arbenigol yn eang ymhlith staff, cleifion a gofalwyr.

Meddai Anwen: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd i dderbyn y wobr hon. Mae’n anrhydedd fawr ac yn gyflawniad mwyaf fy ngyrfa nyrsio. Sicrhaodd y cydweithio ar y cyd rhyngof fi a chydweithwyr gofal sylfaenol a chymunedol welliant i’r gwasanaeth diabetes lleol, gan ddangos budd integreiddio a chyfathrebu. Gobeithio, trwy ennill y wobr hon, y byddaf yn ysbrydoli cydweithwyr nyrsio i werthuso, adlewyrchu a gwella’r gofal y maent yn ei ddarparu trwy gael y weledigaeth i gwestiynu a gwella gwasanaethau.”

Sue Rees

Gwobr Gwella Iechyd Unigolion a’r Boblogaeth – Enillydd: Sue Rees BEM, Uwch Ymarferydd Nyrsio (Atal Heintiau Cymunedol)

Roedd Sue mewn sefyllfa arbenigol i arwain ar her ac ymateb i atal heintiau COVID-19 cymunedol. Cynhyrchodd fodel atal heintiau a gwnaeth wahaniaeth achub bywyd ar nifer fawr o achlysuron.

Wrth i’r pandemig agosáu, roedd gan Sue wybodaeth hanfodol a rôl unigryw yng Nghymru fel uwch ymarferydd nyrsio ym maes atal heintiau cymunedol, gyda chylch gwaith strategol ar gyfer y Bwrdd Iechyd.

Ar ôl ymddeol o’i rôl llawn amser yn 2018, dychwelodd i’r gwaith am dri diwrnod yr wythnos. Rhannodd arbenigedd ar draws y gymuned er budd cleifion, preswylwyr, staff gofal iechyd a phartneriaid.

Roedd ei gwaith eang yn cynnwys gweithredu polisïau atal heintiau COVID-19, comisiynu unedau sgrinio, hyfforddi personél byddin Prydain, a chefnogi achosion mewn cartrefi gofal, ysbytai cymunedol, lleoliadau gofal sylfaenol ac ysgolion. Hefyd, datblygodd brosesau a pholisi mewn gwersyll lloches lleol.

Heb os, arbedodd y gweithredoedd hyn, ynghyd â chynlluniau rheoli achosion fywydau. Mae Sue wedi cyfathrebu model atal heintiau COVID-19 gyda chydweithwyr ledled Cymru ac mae’n gobeithio ei gyflwyno i gynulleidfaoedd ehangach.

Meddai Sue: “Mae’n anrhydedd aruthrol fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer ac ennill y Wobr Gwella Iechyd Unigolion a Phoblogaeth. Mae’n gydnabyddiaeth o’r gwaith ymateb dwys COVID-19 yn y gymuned.

“Fel nyrs am 39 mlynedd mae’r wobr hon yn fraint ac mae’r cyflawniad hwn yn bwysig o fewn fy ngyrfa nyrsio anhygoel a gwerth chweil. Rwy’n falch iawn bod fy ymrwymiad ac angerdd dros atal a rheoli heintiau a nyrsio wedi cael ei gydnabod yng ngwobrau Nyrs y Flwyddyn RCN.”
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am waith y rhai ddaeth yn ail. (yn agor mewn dolenTa newydd)


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.