17.8 C
Llanelli
Friday, August 28, 2026
Home Farming ENILLYDD Y GYSTADLEUAETH PESGI MOCH MENTER MOCH CYMRU A CFFI CYMRU I’W...

ENILLYDD Y GYSTADLEUAETH PESGI MOCH MENTER MOCH CYMRU A CFFI CYMRU I’W GYHOEDDI YN Y FFAIR AEAF ELENI

0
396
pascal debrunner b zyMn e R4 unsplash
pascal debrunner b zyMn e R4 unsplash

Mae enillwyr cystadleuaeth Pesgi Moch, Menter Moch Cymru a CFFI Cymru 2021 yn paratoi ar gyfer diweddglo’r gystadleuaeth a’u hymddangosiad cyntaf yn y Ffair Aeaf Brenhinol Cymru’r wythnos nesaf.

Bydd y chwe ffermwr ifanc yn cychwyn ar daith gyffrous a therfynol y gystadleuaeth flynyddol wythnos nesaf sydd â’r nod o annog y genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr moch ac i gael ffermwyr ifanc i feddwl am gadw moch ar eu fferm fel ffordd o arallgyfeirio adref.

Mae’n fenter ar y cyd rhwng Menter Moch Cymru a CFfI Cymru. Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Y chwe unigolyn sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth eleni yw Dylan Phillips o Bwlch y Rhandir, Llangwyryfon, Eiry Williams o Dy Newydd Langwyryfon, Luned Jones o Lanwnnen, Llanllwni, Elliw Roberts o Gaergybi ar Ynys Môn, Sally Griffiths o Presteigne, Maesyfed a Laura Evans o Gwynfa, Llangwyryfon.

Yn y gorffennol datgelid y rhai oedd yn y rownd derfynol yn bersonol yn Sioe Frenhinol Cymru ond yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd y pandemig, mae’r trefnwyr wedi gorfod troi at dechnoleg, a chyhoeddwyd yr enillwyr ar-lein fel rhan o Sioe Rithwir Frenhinol Cymru yng Ngorffennaf.

Yn gynnar ym mis Medi, cafodd pob cystadleuydd yn y rownd derfynol bum mochyn wyth wythnos oed o’u brîd dewisol eu hunain i’w fagu. Roedd y moch yn cael eu pwyso bob pythefnos fel bod eu cyfradd twf a’u defnydd o borthiant yn cael eu cofnodi ac roedd yr holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cael eu cynnwys mewn rhaglen hyfforddiant pwrpasol i’w helpu gyda’u menter newydd.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Moch Cymru: “Dyma’r bedwaredd flwyddyn i ni redeg y fenter hon mewn cydweithrediad â CFfI Cymru, ac rydym yn gyffrous iawn ar ran y ffermwyr ifanc a fydd yn dod â’u moch i’r sioe am y tro cyntaf. Bydd hi’n braf bod yn dyst i’r effaith gadarnhaol y mae’r gystadleuaeth hon yn ei chael ar y ffermwyr ifanc eu hunain, ond hefyd i weld newydd-ddyfodiaid yn datblygu wrth iddynt gael eu cyflwyno i’r sector moch. “

Bore Mawrth nesaf yn Ffair Aeaf Brenhinol Cymru bydd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cystadlu yng nghystadleuaeth y mochyn unigol orau a’r par gorau ac yna bydd enillydd cyffredinol y gystadleuaeth yn cael ei ddewis a’i gyhoeddi.

Ymunwch â ni a’n beirniaid arbennig, Ela Roberts o gwmni Oink Oink ger Pwllheli a Mr John Raymond Jones o Gaergybi, Sir Fôn fore dydd Mawrth y 30ain o Dachwedd yn y Ffair Aeaf Brenhinol Cymru


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.