11.6 C
Llanelli
Thursday, October 22, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council  “Nid adeiladu cartrefi newydd yn unig” 

 “Nid adeiladu cartrefi newydd yn unig” 

0
478
Garregglwyd33 scaled
Garregglwyd33 scaled

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno ar gynllun uchelgeisiol i ddarparu dros 2,000 o dai newydd a fforddiadwy ychwanegol ledled y sir dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai, a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn yr wythnos hon, nid yn unig yn creu cartrefi fforddiadwy a chynaliadwy i bobl leol, ond hefyd yn cefnogi twf economaidd ledled Sir Gaerfyrddin gan gefnogi busnesau, pobl a llefydd yn ystod y broses adeiladu a thu hwnt.

Mae’r 2,000 o gartrefi newydd yn ychwanegol at gynlluniau darparu tai a gytunwyd arnynt yn flaenorol, sydd eisoes wedi darparu dros 1,000 o dai newydd flwyddyn cyn y targed, gyda’r allweddi i fwy na 100 o gartrefi yn cael eu trosglwyddo i denantiaid.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Yr Aelod Cabinet dros Dai, fod y buddsoddiad o £300miliwn nid yn unig yn ymwneud â thai, ond â chefnogi datblygiad cymunedau cynaliadwy cryf, llefydd lle mae pobl eisiau byw a gweithio ynddynt, a rhoi cartrefi o ansawdd da sy’n effeithlon o ran ynni ac yn fforddiadwy i’w rhedeg i bobl.

“Mae hwn yn gynllun cyffrous ac uchelgeisiol a fydd yn gweld buddsoddiad sylweddol yn ein cymunedau,” dywedodd.

“Bydd yn gwneud cyfraniad mawr i’r angen am dai newydd a fforddiadwy ar draws y sir, ac wrth gwrs yn cefnogi economi’r sir.

“Ychydig flynyddoedd yn ôl, yn 2019, gwnaethom gyhoeddi ein cynlluniau i adeiladu 900 o dai cyngor newydd dros y 10 mlynedd nesaf – mae’r cynllun hwn yn ymestyn yr uchelgais ymhellach, wrth i ni adolygu a manteisio ar gyfleoedd newydd.

“Mae’r cynllun hwn yn cynnwys tai i’w rhentu a’u prynu mewn ardaloedd ar draws y sir – cartrefi a fydd yn diwallu anghenion a galw’r ardal benodol.

“Nid yw’n ymwneud ag adeiladu cartrefi yn unig, bydd y cartrefi hyn o safon uchel ac yn gynaliadwy, cartrefi y bydd pobl o bob oed yn falch iawn o’u galw’n ‘gartref’.”

Datblygwyd y cynllun ar ôl ymgynghori’n helaeth â thenantiaid, pobl ar y gofrestr tai, busnesau a rhanddeiliaid yn y sector tai.

Ychwanegodd y Cynghorydd Evans: “Hoffwn ddiolch i’n tenantiaid a’n partneriaid am eu cyfraniad a’u hadborth i’n hymgynghoriad diweddar.  Ymatebodd 2,500 o bobl ac mae eu sylwadau wedi ein helpu i greu cynllun uchelgeisiol. Rydym nawr yn gwireddu’r weledigaeth hon.”

Bydd y 2,000 o gartrefi o ddeiliadaeth gymysg, i’w rhentu neu eu prynu, ac yn cael eu datblygu yn seiliedig ar anghenion pobl ym mhob ardal yn Sir Gaerfyrddin, yng nghanol trefi, trefi a phentrefi gwledig a safleoedd adfywio allweddol megis Pentref Gwyddor Bywyd Pentre Awel a Thyisha yn Llanelli.

Bydd yn golygu bod y cyngor yn adeiladu cartrefi newydd, gan weithio gyda chymdeithasau tai lleol a datblygwyr preifat; yn prynu cartrefi o’r farchnad agored; ac yn prydlesu cartrefi gan landlordiaid drwy asiantaeth gosodiadau mewnol y cyngor sef Gosod Syml.

Bydd y cynllun yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynyddu’r cyflenwad o gartrefi rhent cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys llety â chymorth arbenigol i bobl ag anghenion cymhleth a llety hyblyg wedi’i addasu’n hawdd i bobl wrth iddynt fynd yn hŷn.

Bydd y buddsoddiad yn rhoi hwb i’r economi leol, gan ddarparu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn ystod y broses adeiladu ac yn helpu Sir Gaerfyrddin i wella o effeithiau economaidd dinistriol pandemig Covid-19.

Bydd hefyd yn cefnogi egwyddorion Carbon Sero Net y Cyngor, gan greu cartrefi arloesol sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, lleihau allyriadau carbon a hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy i breswylwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Yr Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd: “Bydd bron pob un o’r cartrefi hyn yn garbon sero-net, cartrefi cynaliadwy ac effeithlon i’n preswylwyr, sydd mawr eu hangen wrth i ni barhau i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a chyda chostau ynni cynyddol.”

I gael rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad y cyngor mewn tai, os ydych yn chwilio am gartref neu os ydych yn landlord sydd â chartref i’w brydlesu i’r cyngor, ewch i www.sirgar.llyw.cymru/ta


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.